An Evening with Shane, Lee & Hookie

See dates and times  

Shane Williams, Lee Byrne & James Hook.

Gan y cwmni a gynhyrchodd y sioe ‘An Evening with Nigel Owens’ – mae Ad/Lib Cymru yn falch cael dod â’u sioe ddiweddara i Neuadd William Aston.

Fel y dywedodd yr anhygoel Muhammad Ali unwaith – “Cyfeillgarwch yw’r peth anoddaf yn y byd i’w egluro. Nid yw'n rhywbeth ry’ch chi'n ei ddysgu yn yr ysgol. Ond os nad ydych chi wedi dysgu ystyr cyfeillgarwch, dy’ch chi heb ddysgu dim byd mewn gwirionedd."

Dyma dri o gewri’r byd chwaraeon – cyn-chwaraewyr rygbi rhyngwladol yn gwasanaethu Cymru yn wych ynghyd â’r Llewod a’r Gweilch. Ond nid dim ond mabolgampwyr gwych – mae’r tri hefyd yn ffrindiau gorau.

Yn ystod y noson hon byddwn yn clywed am eu cyfeillgarwch ynghyd â’r hanesion ar y cae rygbi ac oddi arno.

Heb os bydd hi’n noson i’w chofio.