An Evening with Dan Biggar

See dates and times  

Ymunwch ag un o chwaraewyr rygbi gorau Cymru erioed wrth i Dan Biggar sôn am ei yrfa anhygoel a’i hunangofiant newydd, The Biggar Picture.

Prin yw’r crysau mwy eiconig yn y byd chwaraeon ym Mhrydain nag un maswr Cymru a does neb wedi ei wisgo’n amlach na Dan – ef yw’r maswr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau yn hanes Cymru ac mae wedi ennill tair Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a dwy o’r rheini'n gampau llawn. Ar ôl pymtheng mlynedd ar y lefel uchaf mewn rygbi prawf, gan arwain y garfan fwyaf llwyddiannus yn hanes Cymru, mae Dan Biggar yn adrodd ei stori.

"Pan rydw i'n edrych yn ôl ar y cyfan, rydw i'n gallu dweud heb unrhyw amheuaeth fy mod i wedi rhoi popeth."

Dydi Dan Biggar ddim wedi ffitio i'r mowld erioed. Drwy gydol ei yrfa faith a llwyddiannus, mae wedi gorfod wynebu'r beirniaid, tawelu'r sinigiaid. Mae ei steil o chwarae wedi cael ei ddisgrifio fel un hy, ymosodol a di-lol, ac mae wedi rhoi enw nad yw wedi gallu cael gwared arno iddo. Ond i unrhyw un sy'n ei adnabod oddi ar y cae, mae'n un o lysgenhadon doethaf y gêm.

Yn onest ac yn hunanfeirniadol, mae Dan yn cynnig cipolwg prin ar ei fywyd personol a phroffesiynol. Mae’n siarad yn agored am ei le o fewn y byd rygbi, o’r Uwch Gynghrair i’r Llewod, ac am ddeinameg y pŵer o fewn carfan fwyaf llwyddiannus Cymru erioed. Mae hefyd yn agor drysau'r ystafell newid ac yn edrych ar ei berthnasoedd gyda chyn-gydchwaraewyr, hyfforddwyr a rheolwyr, o Warren Gatland a Shaun Edwards i Alun Wyn Jones a Wayne Pivac.