Cyfle i brofi dathliad eithriadol a chaneuon oesol y grŵp pop cyffrous o Sweden, ABBA, yn fyw ar y llwyfan, yn cynnwys lleisiau a cherddorion o’r safon uchaf, gwisgoedd replica gwych a deunydd fideo rhyngweithiol arbennig.
O Waterloo a Mamma Mia i Gimme! Gimme! Gimmie ac SOS, bydd pob cân yn eich cael chi i ganu a dawnsio mewn noson o adloniant di-stop. Mae Arrival yn dod â thalentau cyfansoddi caneuon hynod Benny a Bjorn yn fyw, gan ail-greu gwir deimlad a gwefr sioe ABBA fyw!