Here We Go Again

See dates and times  

Kerry Katona sy’n serennu yn Here We Go Again.

Mae’r parti gorau yn y West End yn dod yma atoch chi gyda sioe deyrnged orau’r DU i Mamma Mia! The Musical!

Rydyn ni’n anfon SOS at unrhyw un ‘sydd â breuddwyd’ am noson allan wych… felly estynnwch am eich esgidiau platfform a’ch jymp-siwts secwins ac ymuno â ni am y deyrnged ddi-stop eithaf yma i Mamma Mia! The Musical. Gyda chast ffrwydrol yn syth o’r West End yn Llundain, bydd y sioe yma sy’n llawn canu a dawnsio yn eich cyfareddu chi.

Mae cydganu’n cael ei annog, a hefyd dawnsio yn eich seddi yn sicr, ac wrth gwrs mae croeso bob amser i chi wisgo i fyny. ‘Cymerwch siawns’ a bachu tocyn am noson wych o ganeuon eiconig di-stop, egni di-stop, a Mamma Mia di-stop!