Will leave any folk-rock fans wholly satisfiedBroadwayBaby
Dan Clews is too great a talent to ignoreSir George Martin
Wow, what an experienceBBC Radio
Ar ôl mwynhau degawd yn teithio ac ennill clod gan y beirniaid yn ystod perfformiadau llawn yng Ngŵyl Fringe Caeredin, Fringe Adelaide a Fringe World Awstralia, yn ogystal â sioeau llawn ledled y DU a’r UDA, mae The Carole King & James Taylor Songbook yn dod i Neuadd William Aston!
Gan eich tywys chi ar siwrnai anhygoel drwy yrfaoedd Carole King, enillydd chwe Gwobr Grammy ac artist sydd wedi cael ugain o ganeuon platinwm, a James Taylor, un o gewri byd cerddoriaeth werin America ac enillydd pum Gwobr Grammy, mae hon yn sioe na ddylech chi ei cholli.
Yn cynnwys fersiynau angerddol o Fire and Rain, Sweet Baby James, I Feel the Earth Move, Natural Woman, You've Got a Friend, a llawer mwy, mae’r casgliad rhyfeddol yma o ganeuon yn cael ei gyflwyno gyda diffuantrwydd llwyr gan ensemble llwyddiannus Night Owl Shows.




