Francis Rossi

See dates and times  

Noson o ganeuon Francis Rossi o lyfr caneuon Status Quo a mwy…

Bydd y sioeau yma’n cynnwys caneuon heb eu chwarae erioed o'r blaen yn y fformat yma ac yn cynnig straeon cefn llwyfan am ymddangos dros 100 o weithiau ar Top of The Pops, pam mai nhw oedd y cyntaf i berfformio yn Live Aid, bywyd gyda Rick Parfitt, y caneuon eiconig, y sêr eraill, ac anturiaethau ym mhob cwr o’r byd, i gyd wedi'u plethu gyda ffraethineb a hiwmor Francis.

Bydd Francis yn perfformio llawer o’i ganeuon nodedig a greodd yr enw Quo, ynghyd â rhai ffefrynnau personol a thoriadau dyfnach, a bydd yn adrodd mwy o straeon am ei fywyd anhygoel yn y byd cerddoriaeth. Meddwl eich bod yn adnabod Francis? Nac ydach, dim eto …

Mae’r tocynnau VIP yn cynnwys: Sesiwn Cyfarfod a Chyfarch gyda Francis cyn y sioe, cyfle i dynnu lluniau personol (dewch â’ch ffôn / camera eich hun ar gyfer hyn), cyfle llofnodi ar gyfer un o’ch eitemau eich hun, un o’r seddi gorau yn y tŷ ar gyfer y sioe, ac un o nwyddau unigryw y daith.