Nik Kershaw: Musings & Lyrics

See dates and times  

Noson agos atoch chi o ganeuon, straeon a ffwlbri yng nghwmni Nik Kershaw.

Fe ffrwydrodd Nik Kershaw ar y sîn bop yn y DU yn 1984. Gyda chyfres o senglau poblogaidd yn fyd-eang gan gynnwys Wouldn't it Be Good, The Riddle ac I Won't Let the Sun Go Down on Me fe fu am 62 wythnos yn Siart Senglau'r DU, gan ei wneud yr artist unigol a werthodd fwyaf yn y DU yn ystod y flwyddyn honno.

Yn 1985, perfformiodd yn Live Aid. Ar ôl camu fwy i'r cysgodion i ganolbwyntio ar ysgrifennu a chynhyrchu, ysgrifennodd Nik The One and Only gan Chesney Hawkes a chydweithiodd gydag Elton John, Lulu, Petula Clark a Bonnie Tyler.

Yn 1998, dychwelodd Nik i berfformio ac mae wedi bod yn creu albymau sydd wedi ennill bri'r beirniaid fyth ers hynny. Nawr mae'n barod i edrych yn ôl gyda noson gartrefol i gyd-fynd â rhyddhau ei lyfr newydd. Gallwch ddisgwyl caneuon, straeon a ffwlbri gan un o berfformwyr mwyaf poblogaidd y wlad.