Mersey Beatles

See dates and times  

Gefnogwyr y Beatles, byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan hoff fand teyrnged y byd i’r Fab Four, criw sydd wedi’u geni yn Lerpwl.

Mae’r Mersey Beatles wedi bod yn rocio sioeau sydd wedi gwerthu allan ledled y byd ers 1999 gyda’u dathliad gwirioneddol ddilys o John, Paul, George a Ringo sydd wedi cael canmoliaeth eang.

Mae’r band – a wnaeth fwy na 600 o ymddangosiadau mewn cyfnod preswyl o 10 mlynedd yng Nghlwb chwedlonol y Cavern yn Lerpwl – yn hynod driw i ysbryd mewnol ac allanol y Fab Four gwreiddiol.

O’r gwisgoedd, yr offerynnau, ffraethineb digywilydd y Sgowsars ac, wrth gwrs, y sain nodedig honno o’r cyfnod Merswy, mae sioe lwyfan fyw syfrdanol The Mersey Beatles yn ddathliad gwefreiddiol yn llawn caneuon cyfarwydd o’r gerddoriaeth a newidiodd y byd.

Am ddwy awr fythgofiadwy, byddant yn mynd â chi ar daith wych drwy ganeuon ‘mop top’ Beatlemania, creadigrwydd seicadelig Sgt Pepper a rhyfeddod melodig ac egni gwaith diweddarach y Fab Four.

Felly dewch yn llu ar gyfer y ‘Daith Hanes Hudolus’ yma – fe fydd pawb yn siŵr o gael amser gwych!