One Night in Dublin

See dates and times  

Sioe deyrnged hyfryd i gerddoriaeth Wyddelig i godi hwyliau pawb!

Yn cael adolygiadau anhygoel am y cerddorion campus a’r dewisiadau gwych o ganeuon, mae Middi a’i fand teyrnged sydd wedi ennill sawl gwobr yn canu eich holl ffefrynnau chi o ran caneuon Gwyddelig i gydganu â nhw gan gynnwys Galway Girl, Tell Me Ma, The Irish Rover, Dirty Old Town, Whiskey in the Jar, The Wild Rover, Black Velvet a mwy!


Yn cael eu canu gan "the best Irish band to never come from Ireland," mae’r Wild Murphys yn fand teyrnged Gwyddelig gyda Ffidil ac Acordion byw. Fe fyddan’ nhw’n mynd â chi i 'Murphy's Pub' am ddwy awr o gerddoriaeth, caneuon a hiwmor.

Gyda chaneuon gan y Pogues, Saw Doctors, Dubliners, Fureys, Flogging Molly, The Dropkick Murphys a mwy, mae One Night in Dublin yn hanfodol i bawb sy’n caru cerddoriaeth Wyddelig.

Mae fel Diwrnod Sant Padrig bob nos!