Mae Rhythm of the Dance yn dychwelyd i’r DU yn 2025, ei 26ain blwyddyn o deithio’r byd i fwy na 50 o wledydd.
Yn cynnwys cerddorion o safon byd sy'n chwarae'n fyw ar y llwyfan, cantorion campus sy’n canu'n fyw a dawnswyr sy’n bencampwyr byd, mae'r sioe hudolus yma’n brofiad cwbl gyfareddol o rythmau cryf gyda choreograffi slic ac mae’n cael ei pherfformio ar gyflymder rhyfeddol.
Ymunwch â ni ar y siwrnai wefreiddiol yma sy’n Wyddelig yn ei hanfod, drwy hanes hynafol y wlad ac wedyn yr Iwerddon fodern, drefol welwn ni heddiw, gyda sioe sy’n gyforiog o ddoniau.