Ti werth y byd, Sali Mali!

Arad Goch

See dates and times  

Paratowch am antur hudolus, liwgar a llawn hwyl gyda Sali Mali a’i ffrindiau! 🌼

Dewch i gamu i fyd arbennig cymeriadau hoffus Mary Vaughan Jones wrth iddyn nhw ddod yn fyw ar lwyfan mewn drama newydd sbon i blant bach a’u teuluoedd.

Gyda cherddoriaeth, caneuon a digonedd o chwerthin, bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn eich tywys ar antur gyffrous, gan ddathlu’r hyn sy’n ein gwneud ni i gyd yn arbennig ac yn unigryw. Oherwydd mae gan bawb eu doniau eu hunain, ac mae gan bawb rywbeth arbennig i’w gynnig!

Dewch i ganu, chwarae a chael eich swyno gan fyd Sali Mali mewn cynhyrchiad llawn dychymyg, cynhesrwydd a hud, yn arddull unigryw Arad Goch.

Ymunwch â ni am antur theatrig arbennig yr haf hwn – a chofiwch, ti werth y byd!

*Cynhyrchiad Cymraeg ond yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd*