Ymweliad

Mae’n bwysig iawn bod pawb yn gallu mwynhau noson wych, ymlaciol gyda ni.

Byddwn yn ceisio rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl ar y dudalen hon ond, os na chaiff eich cwestiwn ei ateb, cysylltwch â ni drwy glicio yma!


Cynllun HYNT.

Mae Hynt yn gynllun sy'n gweithio yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth benodol am fynediad i helpu i gynllunio'ch trip. Rydym yn rhan o gynllun Hynt gan ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau o ran polisi tocynnau teg a hygyrchedd. Mae gan ddeiliaid y cerdyn hawl i docyn am ddim ar gyfer cynorthwy-ydd personol neu ofalwr.

Cliciwch yma i gael gwybod am gymhwysedd neu glicio yma i wneud cais.



Symud o gwmpas ein lleoliad
Mynedfa Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
I fynd i mewn i’r adeilad yn ein prif fynedfa o flaen Prifysgol Glyndŵr Wrecsam mae mynediad â ramp gyda chanllaw neu mae 6 gris gyda chanllaw. Mae’r drysau blaen yn 2 ddrws ‘tynnu’ â llaw a 2 ddrws awtomatig.

Mynedfa Neuadd William Aston

Unwaith y byddwch y tu mewn i'r cyntedd mae 4 gris gyda chanllawiau at ddrysau tynnu â llaw i fynd i mewn i'r awditoriwm. Mae lifft un person wrth ymyl y grisiau hefyd.

Mynediad i Gadair Olwyn

Mae lifft hawdd ei defnyddio wedi'i lleoli wrth ymyl y grisiau i'r fynedfa i Neuadd William Aston. Yn y maes parcio blaen mae 5 lle parcio lled ychwanegol. Mae'r toiled hygyrch agosaf tua 30 metr o Neuadd William Aston. Mae allanfeydd tân â ramp bob ochr i'r awditoriwm.

Toiledau

Mae toiledau dynion, merched a chymysg wedi'u lleoli tua 10m o Neuadd William Aston.

Y tu mewn i Neuadd William Aston

Dolen Clyw
Nid oes dolen glyw ar gael yn Neuadd William Aston ar hyn o bryd.

Eiliau
Mae eiliau i lawr ochrau (tua 1m o led) a chanol (1.5m o led) y neuadd.

Seddi
Mae 8 o lefydd cadair olwyn gyda seddi cyfaill yn Rhes J – os oes angen unrhyw gymorth arnoch i archebu seddi, cysylltwch â'n swyddfa docynnau.

Maint y Seddi
Lled – tua 45cm.
Dyfnder – tua 30cm.
Hyd cyfartalog i'r coesau - Tua 30cm

Gellir dod o hyd i seddi gyda lle ychwanegol i'r coesau ar resi C, K ac S.

Diodydd yn ystod Egwyl
Er mwyn osgoi sefyll mewn ciw, gallwch archebu eich diodydd ymlaen llaw.

Lawrlwythwch yr ap: www.preoday.com