Eich Archeb

Sut i archebu

Mae'n hawdd archebu lle ar gyfer ein holl ddigwyddiadau ar-lein neu dros y ffôn. Mae Theatr Clwyd yn gweithredu Neuadd William Aston felly mae pob tocyn yn cael ei werthu naill ai drwy ein gwefan neu ein tîm cyfeillgar yn y swyddfa docynnau.

Ffôn
Mae ein llinell ffôn (01352 344101) ar agor rhwng 10am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Mae’r cyfnodau prysur yn dueddol o fod rhwng 10am ac 11am.

Ar-lein
Gallwch archebu ar-lein ar y wefan hon. Yn syml, chwiliwch am y sioe rydych eisiau ei gweld, sgroliwch i waelod y dudalen i ddewis y perfformiad a bydd ein system swyddfa docynnau yn eich arwain drwy'r broses! Bydd eich tocynnau yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost.

E-bost
Oes gennych chi ymholiad am eich archeb? Gyrrwch e-bost atom ar info@williamastonwrexham.com a byddwn yn ei ateb cyn gynted â phosibl!

Facebook a Twitter
Er na allwn gymryd archebion drwy Facebook a Twitter gallwn ateb cwestiynau a chynnig cymorth cyfyngedig y tu allan i oriau – fel arfer rhwng 10am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Sylwch nad oes archebu wyneb yn wyneb ar gael ar hyn o bryd.