Cwestiynau Cyffredin

Pam nad yw'r holl seddi ar gael?
Rydyn ni'n ceisio sicrhau bod gennym ni gymysgedd o sioeau yn ystod ein blwyddyn - mae gan rai gynulleidfaoedd eang ac mae eraill yn fwy arbenigol, bydd rhai yn gwerthu allan ac eraill yn gwerthu 50% - 70% o'r seddi sydd ar gael. Fe wnaethon ni sylwi bod gennym ni broblem ar gyfer y sioeau hynny nad oedd yn gwerthu allan - byddai'r gynulleidfa wedi'i gwasgaru a byddai rhannau o'r awditoriwm yn teimlo'n wag. Er ein bod bob amser yn anelu at werthu popeth y gallwn, nid ydym bob amser yn taro 100% - rydym yn creduโ€™n gryf bod y profiad o theatr fyw yn cael ei wella gydag awditoriwm llawn - bod o gwmpas pobl sydd hefyd yn mwynhau'r un profiad - os na allwn wneud hynny (ni allwn ar gyfer popeth), rydym yn sicrhau profiad gwych drwy wneud yn siลตr bod yr awditoriwm yn teimlo'n brysur.

Does neb yn hoffi edrych ar seddi gwag felly, gan fod pobl yn dueddol o edrych ymlaen ac i'r ochr yn ystod sioeau, a phur anaml y tu รดl iddynt, mae'n golygu ei bod yn gwneud synnwyr i ni geisio cael pobl ymhellach ymlaen yn yr awditoriwm drwy gyfuniad o gloi cefn y tลท ar y dechrau a newidiadau i'n prisiau. Rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn yn Theatr Clwyd am y 5 mlynedd diwethaf ac, ar y cyfan, ac iโ€™r mwyafrif helaeth oโ€™n cynulleidfaoedd, mae wedi gwellaโ€™r profiad.

O ran argaeledd seddi, rydym yn adolygu argaeledd y seddi yn wythnosol ac yn rhyddhau seddi pan fo galw (ein nod yw cael o leiaf 150 o seddi ar werth ar gyfer pob sioe i sicrhau bod gan bobl opsiynau). Mae hyn i gyd wir yn ein helpu gyda'n cynaliadwyedd tymor hwy gan sicrhau y gallwn barhau i ddod รข chwmnรฏau byd-enwog i'n llwyfan.

Fe hoffwn i ddod รข sioe i Neuadd William Aston?
Gwych! Byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs โ€“ rydym yn trafod yr holl opsiynau rhaglen ac yn edrych ar eu hyfywedd mewn perthynas รขโ€™n cynulleidfa aโ€™n cymuned ond hefyd i wneud yn siลตr bod gennym gymysgedd da o ddigwyddiadau. Anfonwch e-bost i williamastonhall@theatclwyd.com.

Mae gen i ad-daliad yn ddyledus gan y gweithredwyr blaenorol VMS?
Cyn i Theatr Clwyd gymryd yr awenau i weithredu Neuadd William Aston, aeth y gweithredwyr blaenorol i ddwyloโ€™r gweinyddwyr o ganlyniad i bandemig Covid 19. Bydd angen i chi gysylltu รข'r gwerthwr blaenorol y gwnaethoch brynuโ€™r tocyn ganddo.

Y darparwyr tocynnau blaenorol oedd:

โ€ข Eventim - 0333 344 625 neu cliciwch yma
โ€ข Ents24 - www.ents24.com
โ€ข Ticketmaster - www.ticketmaster.co.uk
โ€ข Whatโ€™s On Stage - www.whatsonstage.com