Mae Uptown Girl - The Billy Joel Collection yn dathlu gwaddol un o'r cerddorion Americanaidd gorau erioed. Yn seiliedig ar chwe degawd o ganeuon gwych, mae’r cynhyrchiad llwyfan newydd syfrdanol yma’n cynnwys band llawn sy’n ymroi i ail-greu perfformiadau eiconig, gan gynnwys ymddangosiad Billy ar The Old Grey Whistle Test yn 1978, ei Gyngerdd eiconig yn Wembley yn 1984 a’r arloesol ‘Live In Long Island'.
Mae’r cyngerdd dwyawr yma sy’n codi’r to yn cynnwys caneuon eiconig di-stop gan gynnwys: Piano Man, You May Be Right, It’s Still Rock & Roll To Me, River of Dreams, We Didn’t Start the Fire ac, wrth gwrs, Uptown Girl.