News Story
Yn Life At The Limit mae’r cyn sarjant gyda’r Lluoedd Arbennig, Jason Fox, yn ymgymryd â’i her ddiweddaraf – gan rannu ei brofiadau bywyd â chynulleidfaoedd ledled y DU.
Yn fwyaf adnabyddus i wylwyr fel un o’r hyfforddwyr caled ar SAS: Who Dares Wins ar Channel 4, cafodd Jason Fox brofiad o ymladd â gynnau, achub gwystlon, dihangfeydd beiddgar ac ymdrechion arwrol yn ystod ei 20 mlynedd o wasanaeth milwrol. Ond doedd y brwydrau ddim drosodd pan ddychwelodd adref - daethant yn fwy personol wrth iddo gael diagnosis o PTSD.
Nawr, cyn dyddiadau ei daith ddiweddaraf yn y DU – mae Life At The Limit yn teithio i 25 o leoliadau ar draws y DU yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror – mae Jason yn rhannu straeon am ddamweiniau lu fu bron â digwydd, a’r foment y cafodd ei wthio at y dibyn.
Mae ychydig dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i Jason Fox barcio mewn maes parcio ar ben clogwyn, ar fin dod â’i fywyd ei hun i ben.
“Roeddwn i’n cael hunllef o ddiwrnod – yn methu gweld pwrpas mewn dim byd, doedd gwaith ddim yn dda, roeddwn i wedi cael ffrae enfawr, a jyst yn teimlo ‘Beth yw’r pwynt?’,” mae’n cofio.
“Roeddwn i wedi bod yn y fyddin am 20 mlynedd. Roeddwn i'n arfer bod yn wych am wneud rhywbeth, a heb hynny roeddwn i'n teimlo efallai bod fy nefnyddioldeb i ar y blaned yma wedi dod i ben."
Yn ystod yr yrfa honno o 20 mlynedd gyda’r Môr-filwyr a’r Lluoedd Arbennig, fe gafodd Jason brofiad o ‘ryfela dwys iawn’ a gwelodd gydweithwyr yn cael eu lladd a’u hanafu’n rheolaidd. Ond roedd o wedi colli ei ‘mojo milwrol’, ac ar ôl sesiynau therapi di-ri, daeth i dderbyn mai diagnosis o PTSD a rhyddhau meddygol oedd yr opsiwn ‘lleiaf drwg’. Wedi’i daflu’n ôl yn rhan o fywyd bob dydd yn 36 oed, am y tro cyntaf ers gadael yr ysgol, roedd y bywyd cyffredin iawn hwnnw – trefnu apwyntiadau deintyddol, ffeilio ffurflenni treth, byw yn llawn amser gyda phartner – yn her fwy na’r bywyd roedd yn gyfarwydd ag o. Heb y frawdoliaeth a'r rhwydwaith cefnogi sy’n cael ei ddarparu gan ffordd filwrol o fyw, roedd Jason yn cael anhawster gwybod pwy oedd o bellach ac fe arweiniodd yr ymdrech honno at y clogwyn hwnnw.
“Wrth edrych yn ôl, dydw i ddim yn gwybod beth wnaeth fy stopio i,” meddai. “Ond mae’n debyg nad oeddwn i’n barod cweit i roi’r gorau iddi.
“Fe gefais i air efo fi fy hun, sylweddoli bod rhaid i bethau newid ac roedd yr eiliad honno o onestrwydd yn foment bwysig iawn.”
O hynny ymlaen, fe gafodd Jason ‘wared ar y negyddiaeth’ yn ei fywyd, ac ‘aeth ar siwrnai i ddod o hyd i’r bobl iawn’ i’w helpu i symud ymlaen.
Gan frwydro’n ôl o ymyl y dibyn, fe ddaeth Foxy o hyd i bwrpas ac ysgogiad newydd - yn rhannol drwy sefydlu ei elusen iechyd meddwl ac yn rhannol drwy ei yrfa deledu ar ôl iddo dderbyn cynnig i fod yn un o arbenigwyr SAS: Who Dares Wins, rhaglen y mae wedi bod gyda hi ers ei lansio yn 2015.
Doedd Foxy a’r tîm ddim wedi cael eu darbwyllo gan y syniad gwreiddiol o gywasgu’r broses o ddethol y Lluoedd Arbennig i wythnos o ffilmio. Yn lle hynny, fe wnaethon nhw gynnig defnyddio elfennau o’r broses ddethol honno i greu cwrs unigryw a fyddai’n dod o hyd i’r nodweddion allweddol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn y Lluoedd Arbennig – gyda ffocws mawr ar gryfder corfforol a meddyliol
“I ddechrau, roedd SAS: Who Dares Wins yn dipyn o arbrawf – doedd neb yn gwybod os na sut byddai’n gweithio, na sut byddai’r bobl oedd yn cymryd rhan yn ymateb iddo,” meddai.
“Mae wedi bod yn rhyfeddol gweld sut mae pobl gyffredin ac enwogion wedi taflu eu hunain i mewn i’r rhaglen dros y blynyddoedd. Rydw i'n synnu at ba mor fawr mae wedi dod, ac yn falch iawn ohoni hefyd.
“Yr hyn sydd wedi bod yn syndod hefyd ydi’r hyn rydw i wedi’i ddysgu o’r profiad – peidio â barnu pobl, a rhoi cyfle arall i bobl.
“Ac mae’n helpu i lenwi’r ‘bwlch’ sydd wedi’i adael ar ôl y bywyd milwrol. Pan rydyn ni allan yn ffilmio, mae yna dîm o bobl i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i gwblhau eu gwaith dan amodau eithaf anodd.
“Dydi o ddim mor galed o gwbl â’r hyn oeddwn i wedi arfer ag o yn y Lluoedd Arbennig, ond rydyn ni’n dal i weithio dyddiau 24 awr mewn amgylcheddau eithafol, yn cyd-dynnu, yn herio ein hunain.
Mae dweud hynny'n dipyn o danddatganiad wrth ystyried rhai o straeon Foxy… Llofrudd personol Pablo Escobar yn dal pistol wrth ei ben, damweiniau hofrennydd mewn parthau rhyfel dienw, neu frwydrau gwn lle mae'r garfan o 30 yn cael ei hamgylchynu gan fwy na 200 o ymladdwyr y gelyn ac 'un o'r hogiau'n marw ar unwaith'.
Fel llawer o ddynion ifanc, cyrhaeddodd Foxy ddiwedd ei gyfnod yn yr ysgol a dod o hyd i’w lwybr i'r fyddin. Roedd ei dad yn gyn-filwr ar y môr, felly roedd wedi bod yn rhan o'i fywyd erioed ac roedd yn gwybod bod yr opsiwn ar gael iddo. Wedi'i fagu ar stad cyngor yn Luton yn y 1980au, roedd Foxy, yn ei arddegau, yn gwyro tuag at ochr anghywir y traciau ac yn cydnabod bod angen iddo wneud ambell newid – sy’n swnio'n gyfarwydd. Roedd ymrestru ar ôl ei arholiadau TGAU yn ymddangos fel dewis eithaf amlwg.
“Roeddwn i’n casáu’r ysgol ac eisiau gadael cartref, a’r ffordd gyflymaf o wneud hynny oedd drwy ymrestru. Roeddwn i eisiau gweld mwy o’r byd,” esboniodd, wedi’i ddenu gan y cyfle i fynd allan yna a ‘gwneud dipyn o shit cŵl’, fel mae’n disgrifio llawer o’r hyn a ddilynodd.
Roedd y 90au yn gyfnod ‘rhesymol o dawel’ i’r Môr-filwyr, ond fe wnaeth y cyfnod tawel hwnnw iddo sylweddoli mai’r weithred o filwrio – ‘bod fel plentyn yn rhedeg o gwmpas yn y baw’ - oedd yr hyn yr oedd Jason yn ei fwynhau. Yn llai felly’r ‘gorymdeithio, y rhwysg a’r seremoni’. Felly fe ddaeth y cyfle i ymuno â’r Lluoedd Arbennig ar yr amser perffaith – gan eu bod nhw, yn aml, yn gwasanaethu’n weithredol mewn cyfnod o heddwch hyd yn oed. Doedd dim llawer o amser wedi mynd heibio ers i Jason gwblhau'r broses ddethol drylwyr ar gyfer y Lluoedd Arbennig pan ddigwyddodd Medi 11eg 2001. ’Fyddai dim byd wedi gallu paratoi'r byd ar gyfer y foment honno, ond roedd Jason ar ei orau o leiaf o ran ffitrwydd meddyliol a chorfforol ar gyfer yr heriau i ddod.
“Rydw i’n cofio gweld yr ymosodiad ar y Ddau Dŵr ar y teledu,” meddai. “Pan ddaeth i’r amlwg beth ddigwyddodd, roedden ni’n gwybod beth fyddai’n digwydd nesaf. Roeddwn i'n adnabod bechgyn aeth i mewn yn syth.
“Roedd yn drobwynt yn y berthynas gyhoeddus gyda gweithrediadau’r Lluoedd Arbennig a’r ymwybyddiaeth ohonyn nhw – roedden nhw’n rhan o newyddion prif ffrwd, ar ôl bod yn ddirgel iawn erioed. Roedd y pethau roeddwn i’n eu gwneud yn y papurau newydd, ar y tudalennau blaen, doedd hynny ddim wedi digwydd erioed o’r blaen.”
Gan godi i reng Sarjant, roedd Foxy yn cael ei barchu ac yn cael ei ystyried yn gyffredinol fel unigolyn nad oedd posib ei ddinistrio, gan wneud ei ddiagnosis PTSD a’i ryddhau yn feddygol yn fwy o syndod i’r rhai o’i gwmpas. Ond, yn ei ffordd ddihafal ei hun, unwaith y daeth o hyd i rai atebion drwy therapi, trodd Jason y profiadau hynny i'w fantais ei hun i gefnogi pobl eraill - a'i barodrwydd i siarad am broblemau iechyd meddwl yn y lluoedd ac ar ôl hynny.
Mae'r agwedd onest honno wedi helpu i’w wneud yn boblogaidd, ac mae'n dod â'r profiadau hynny i Life At The Limit.
“Roedd teithio Life At The Limit yn gynharach eleni yn rhywbeth gwbl ddieithr i mi ac roeddwn i wrth fy modd felly rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fynd yn ôl ar y ffordd,” meddai Jason.
“Rydw i wedi cael profiadau anhygoel – rhai da, rhai drwg – ac rydw i wir yn teimlo ei bod hi’n anrhydedd bod pobl eisiau clywed amdanyn nhw.
“O hanesion am ffilmio o’r tu ôl i'r llenni, rhai'n ddoniol, eraill yn greulon; a sut brofiad ydi o mewn gwirionedd pan fyddwch chi'n dod wyneb yn wyneb â llofruddwyr drwg-enwog, cartels cyffuriau, rhyfelwyr Mecsicanaidd a phobl sy’n cael eu llogi i ladd, mae hwn yn gofnod heb ddal dim yn ôl o fy mywyd i hyd yn hyn.
“Mae Life At the Limit yn gofnod gonest iawn o brofiad sydd wedi bod yn siwrnai hir ac anodd, ond mae hefyd yn ysbrydoledig, yn ddifyr, yn ddoniol ac yn deimladwy ar yr un pryd.”
Mae Jason Fox: Life at the limit yn dod i Neuadd William Aston, Wrecsam ar 30 Ionawr 2025. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau.