News Story
Cyfweliad Russell Kane Gan Bruce Dessau
Mae’r corwynt o gomedïwr, Russell Kane, yn ei ôl gyda’i sioe newydd sbon, Hyperactive. Mae Kane yn un o berfformwyr foltedd uchel y byd comedi, ac mae’n cyfuno ffraethineb byw gydag antics corfforol a sylwebaeth gymdeithasol graff.
Mae'n cyflwyno ei fideos Facebook Kaneing ac yn arwain podlediad Evil Genius y BBC, a gafodd ei wneud yn gyfres deledu ar gyfer Sky. Mae wedi bod yn westai ar sioeau yn amrywio o Live At The Apollo i The Royal Variety Performance.
Fel perfformiwr byw mae wedi ennill Gwobr Gomedi Caeredin a Gwobr Gŵyl Gomedi Ryngwladol Melbourne. Mae wedi ysgrifennu dau lyfr: Son Of A Silverback a The Humorist. Mae ei drydydd, Pet Selector!, yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 4.
Treuliodd Kane ei flynyddoedd ffurfiannol yn Essex ac mae bellach yn byw ar gyrion Manceinion gyda'i wraig Lindsey, ei ferch Mina a nifer o anifeiliaid. Yn 48 oed, mae ganddo'r un egni manig ag erioed, ac mae’n cofleidio ei chihuahua anwes, Brian, wrth i ni sgwrsio.
Enw eich taith ddiweddaraf chi ydi Hyperactive, sy'n grynodeb perffaith ohonoch chi. Dim ond ar ddiwedd 2023 y daeth eich taith ddiwethaf chi i ben.
Rydw i'n symud yn gyson. Mae'n rhaid i mi fod yn gwneud neu'n creu rhywbeth yn gyson. Rydw i'n ffonio fy rheolwr, Danny, bob dydd. Wedi diflasu, diflasu, diflasu. Rydw i angen mwy. Fe wnes i orffen y daith ddiwethaf ym mis Tachwedd yn Awstralia ac roeddwn i fel buwch heb gael ei godro. Roeddwn i angen mwy. Rydw i wedi cael fy melltithio neu fy mendithio, yn dibynnu ar i bwy rydych chi'n gofyn. Dyna'r ffordd rydw i wedi cael fy adeiladu. Mae gen i sgriw wedi mynd mewn o'r ongl anghywir.
Rydych chi'n mynd i ffwrdd ar bob math o grwydradau yn eich sioeau. Nid dim ond amdanoch chi mae Hyperactive...
Fe ddechreuodd yn fwy fel teitl capsiwl. Mae'n fy nisgrifio i ac mae pobl yn gwybod beth maen nhw'n mynd i'w gael gen i. Arsylwi cymdeithasegol, gwaith byrfyfyr, straeon am fy nheulu i. Ac fel arfer rhyw fath o galon neu neges. Mae'n ymwneud â sut mae wir yn bwysig trïo stopio a mwynhau pob cam o fywyd.
Felly mae’n ymwneud â byw yn y funud?
Ydi, yn hytrach na dweud 'Alla i ddim aros am 2025' a dymuno i bob blwyddyn ddod i ben. Cyn i chi gael amser i feddwl, rydych chi mewn cartref nyrsio ac rydych chi wedi gwastraffu'ch bywyd cyfan yn lle dweud 'a dweud y gwir, mae heddiw'n eithaf cŵl’. Mae'n sôn am y pethau rydw i wedi'u gwneud yn fy mywyd i, ambell brofiad dwys a jyst straeon doniol am wrthod heneiddio a'r holl bethau sy'n mynd o'i le pan fyddwch chi'n yfed gormod o fodca.
Felly rydych chi'n dal i fod yn berson deallus, llawn hwyl sy’n partïo’n galed ond yn ateb cwestiynau am Evelyn Waugh ar Celebrity Mastermind?
Fe es i ar wyliau 18 i 30 unwaith ac fe es i â'r nofel Portrait Of A Lady gan Henry James hefo fi a'i darllen hi wrth y pwll bob dydd. Dyna sy'n fy ngwneud i'n hapus. Fe alwodd Chris Ramsey fi yn ddiagram Venn ar ddwy droed. Rydw i'n mwynhau darllen llyfrau a gwylio ffilmiau, ond dydw i ddim yn un gwyllt am barti. Dydw i ddim wir yn yfed llawer. Y dawnsio ydw i'n ei fwynhau. Rydw i wrth fy modd yn dawnsio.
Ydych chi'n meddwl bod gan Brydain agwedd wahanol at ddawnsio i wledydd eraill? Pan ydw i dramor dydi o ddim yn gysylltiedig ag yfed. Yn ein diwylliant ni, y syniad o godi a dawnsio ar ôl yfed dim ond un cwrw, wel mae fel bod gennych chi ryw fath o anhwylder personoliaeth. Roeddwn i’n caru efo merch o Awstria unwaith ac mewn caffi, pe bai cân dda’n cael ei chwarae, fe fyddai pawb yn dechrau dawnsio.
Rydych chi'n un o stand-yps mwyaf gwreiddiol y byd comedi. Sut daeth eich steil unigryw chi i fod?
Mae'n gyfuniad o ddamweiniau. Rydw i'n parchu stand-yp, peidiwch â ’nghamddeall i. Ond roeddwn i'n 28 oed a doeddwn i erioed wedi gweld comedi byw ac roedd pobl yn dweud wrtha’ i yn y swyddfa o hyd 'fe ddylet ti roi cynnig ar gomedi, ti yw'r person mwyaf doniol rydw i wedi’i gyfarfod erioed’.
Mae'r pethau hynny'n gwrthdaro’n golygu eich bod chi'n edrych yn wreiddiol ar ddamwain. Doeddwn i ddim yn llawn egni heb jôc ar y diwedd oherwydd roeddwn i'n ceisio torri tir newydd. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i'n ei wneud. Roeddwn i jyst yn siarad gyda'r gynulleidfa fel byddwn i'n siarad gyda fy ffrindiau yn y dafarn. Dydw i ddim yn galw fy hun yn gomedïwr hyd yn oed a dweud y gwir. Dim ond fi ydw i, ac ychydig bach mwy.
Rydych chi wedi ysgrifennu llyfr newydd, Pets Selector!, sy'n ganllaw Kane-aidd ei steil ar gyfer dewis anifeiliaid anwes...
Rydw i'n wallgof am anifeiliaid. Rydw i wastad wedi bod. Hyd yn oed pan oeddwn i'n gweithio i asiantaeth hysbysebu yn cropian i mewn drwy'r drws ac wedyn yn gwneud gigs, roedd gen i ddwy gath a chi. Pan oedden ni ar fin cael cath o frîd ragdoll, fe ofynnodd fy merch i sut beth oedd cath ragdoll? Fe wnes i ddweud, 'dychmyga fod gen ti ffrind sy'n hoffi eistedd o gwmpas yn rhechu drwy'r dydd’. Fe gefais i gyfarfod gyda chyhoeddwr ac roedden nhw wrth eu bodd gyda'r syniad o lyfr gyda disgrifiadau o'r fath, yn ddoniol, ond yn llawn gwybodaeth. Dyma'r llyfr y byddwn i wedi hoffi ei gael pan oeddwn i’n naw oed.
Pam ydych chi'n gweithio mor galed?
Mae'n edrych yn debyg nad ydw i’n gallu dianc rhag y meddylfryd dosbarth gweithiol. Rydw i'n meddwl bod rhan o'ch ymennydd chi’n gwybod mai dyna ble fyddwch chi yn y diwedd. Ar ryw adeg rydw i'n meddwl na fydd gen i ddim byd eto. Mae'n fy nghadw i'n llawn awch. Dydi pobl 24 oed ddim yn gallu credu faint o awch sydd gen i pan mae’n nhw’n gweithio hefo fi.
Pwy ydi cefnogwyr arferol Russell Kane?
Mae'n gymysgedd go iawn. Mae fy nghynulleidfa i wedi mynd o 18 oed i 80. Mae gen i ferched du canol oed yn dod i fy ngweld i. Mae gen i fois gwyn crand mewn oed. Mae gen i bobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi fy ngweld i ar TikTok. Ond pan maen nhw'n fy nal i yn y bar maen nhw’n dweud, 'Rydw i'n siŵr bod eich gwaith chi’n hunllef, dydi? Dydych chi ddim yn cael dweud dim byd y dyddiau yma, nac ydach?' Ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddoniol archwilio hynny a dyna o ble mae teitl y gomedi sefyllfa wedi dod.
Fe wnaethoch chi newid eich cyfenw pan wnaethoch chi ddechrau gwneud comedi, o Grineau i Kane. Ydych chi weithiau'n meddwl y byddai wedi bod yn syniad da i chi newid eich enw cyntaf?
Ydw. Roeddwn i mor anwybodus am gomedi, doedd gen i ddim syniad bod dau Russell arall. Rydw i'n siarad am hyn yn Hyperactive, sut rydyn ni'n cael ein clymu i mewn drwy'r amser, fel ein bod ni'n grŵp... dydw i erioed wedi cwrdd â Russell Brand ac unwaith erioed yn fy mywyd ydw i wedi gweithio gyda Russell Howard.
Beth ydi eich diffygion chi?
Dydw i ddim yn gallu stopio. Dydw i ddim yn gallu ddiffodd y switsh oni bai fy mod i ar wyliau. Mae'n ddiffyg enfawr. Mae'n debyg y bydd yn fy lladd i ryw ddiwrnod.
Russell Kane: HyperActive yn dod i Neuadd William Aston, Wrecsam ar 6 Mawrth. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau.