News Story
Yn dilyn llwyddiant Taith 2024, beth all y gynulleidfa ei ddisgwyl ar gyfer 2025?
Ar ôl llwyddiant teithiau 2024, mae’n fwy o’r un peth yn 2025. Crwydro mymryn yn feiddgar, a doniol iawn gobeithio, drwy fy mywyd i yn y byd pêl droed gyda gwesteion gwych ac ambell safbwynt cryf. O - a Bianca Westwood hefyd.
Gyda Bianca Westwood yn cyflwyno, ydi hi'n braf rhannu 'llwyfan' eto?
Mae gan Bianca a fi berthynas caru / casáu. Rydw i'n ei charu hi. Mae hi'n fy nghasáu i. Roedd cemeg Soccer Saturday yn ffrwydrol yn aml ac mae'n dal i fod felly weithiau.
A fydd unrhyw westeion arbennig yn ymuno â chi... ac allwch chi ddweud pwy?
Fe fydd pobl fel Paul Merson, Phil Thompson a Charlie Nicolas yn ymuno â ni, sydd i gyd yn storïwyr gwych yn eu ffordd eu hunain. Ac fe fydd Chris Kammy Kamara gyda ni mewn un digwyddiad o leiaf.
Sut brofiad ydi teithio o amgylch y DU, ac oes cynnwys penodol ar gyfer gwahanol ranbarthau / cefnogwyr pêl droed?
Mae’n bleser cael mynd ar daith o amgylch y DU a darganfod rhai theatrau sydd wir yn berlau cudd – theatr Victoria yn Halifax, y Kings Hall yn Ilkley, y Town House yn Hamilton, y New Theatre yng Nghaerdydd, y Regent yn Christchurch, y Kings Theatre yn Portsmouth a llawer mwy. Mae cymaint o leoliadau hyfryd, unigryw. Wrth gwrs rydyn ni’n addasu cynnwys y sioeau yn dibynnu ar ble rydyn ni felly ’chewch chi byth yn union yr un sioe ar gyfer unrhyw ddwy noson.
Unrhyw drefi ar y daith nad ydych chi erioed wedi ymweld â nhw?
Rydw i’n edrych ymlaen at weld trefi nad ydw i erioed wedi bod ynddyn nhw - Caerhirfryn, y Rhyl a Perth (gobeithio y bydd yn cyd-daro â chyfarfod rasio a / neu gêm yn St Johnstone)
Beth yw eich hoff ran chi o'r sioe?
Fy hoff rannau i o'r sioe yw diwedd pob hanner ac ymateb y gynulleidfa. Fe fyddwn i’n datgelu gormod pe bawn i’n dweud wrthych chi pam. Fe fydd yn rhaid i chi ddod i weld.
Ar ôl gweithio ar Sky TV a chyflwyno nawr ar TalkSport, sut mae cyflwyno ar y radio o gymharu â’r teledu? A sut mae'r ddau yn wahanol i lwyfan?
Mae bywyd ar daith yn wahanol iawn i Sky neu Talksport. Mae bod allan yna a chwrdd â phobl, clywed y chwerthin a'r gymeradwyaeth, yn wych, er yn gwneud rhywun yn nerfus iawn. Wrth gwrs mae llawer o bobl sy'n tecstio neu'n ffonio'r Sioe Frecwast wedi bod yn ein gweld ni'n fyw ac mae'n wych cwrdd â nhw wyneb yn wyneb.
Ydych chi'n mwynhau eich rôl fel llywydd Hartlepool United, ac ydych chi'n cael gwylio llawer o gemau?
Rydw i'n Llywydd ac yn gyfranddaliwr lleiafrif yn Hartlepool United ac, yn rhyfeddol, ym mhob un o’r sioeau bron, mae Poolies yn y gynulleidfa. Fe allwch chi eu hadnabod nhw’n hawdd iawn. Nhw ydi'r rhai gyda’r wynebau sy'n amlwg yn dangos diflastod hirhoedlog. Rydw i'n eu gwylio nhw pan alla’ i mewn llefydd fel Solihull, Maidenhead, Woking, Southend, Yeovil a llawer mwy. Felly pan nad ydw i'n teithio gyda Bianca, rydw i'n tueddu i fod ar daith gyda Hartlepool United.
Dywedwch wrthyn ni mewn 3 gair pam y dylai cefnogwyr fachu tocyn ar gyfer y sioe?
Pam ddylai cefnogwyr brynu tocyn? Oherwydd os ydych chi'n ei galw hi'n 'Bee and Me' neu fel mae hi wedi gwneud, 'Dad and daughter', mae’n bendant yn 'Last Chance Saloon'. Mae bron yn sicr mai'r dyddiadau yma fydd y Chwiban Olaf ar deithiau i mi!
Mae Jeff Stelling yn dod i Neuadd William Aston, Wrecsam ar17 Ionawr 2025 January 2025. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau.