News Story

Mae Theatr Cymru a Theatr Clwyd yn chwilio am ddramâu byrion sy’n feiddgar, cyfoes a doniol i’w perfformio yng Nghaffi Maes B yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Ry’n ni’n chwilio am hyd at 4 dramodydd gyda digon i’w ddweud ac ry’n ni’n arbennig o awyddus i glywed gan awduron sy’n byw yn, neu sydd â chysylltiadau i, Ogledd-Dwyrain Cymru. Ry’n ni’n croesawu syniadau sy’n archwilio pobl, llefydd a lleisiau Wrecsam.
Yn adeiladu ar lwyddiant Ha/Ha (2024) a Rŵan/Nawr (2023), mae hefyd diddordeb gyda ni mewn comedi ym mhob ffurf ac ry’n ni eisiau gweld dramâu sy’n cydio yn nychymyg cynulleidfa’r ŵyl. Bydd cast o 4 a cherddor ar gael i’r dramodwyr.
Mae rhaglen Wrecslam! yn cefnogi dramodwyr i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a dramatwrgol trwy greu dramâu gwreiddiol 10 munud o hyd. Bydd y broses yn cynnwys gweithdai dramatwrgol a dosbarthiadau meistr, cyn cyflwyno’r dramâu gorffenedig mewn cyfres o berfformiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.
Mae Wrecslam! yn parhau’r bartneriaeth hir-dymor rhwng Theatr Cymru a Theatr Clwyd i ddatblygu a chynhyrchu dramâu newydd 10 munud.
Sut i ymgeisio:
Mae Wrecslam! yn gwahodd ceisiadau gan unrhyw un sy’n ateb y gofynion isod:
- Yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn
- Yn siarad Cymraeg neu’n awyddus i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith
- Yn artist neu weithiwr celfyddydol â phrofiad neu uchelgais o ysgrifennu comedi ar gyfer y llwyfan
Bydd dau gam i’r broses ymgeisio ar gyfer Wrecslam! – yn gyntaf, bydd cyfnod i artistiaid fynegi diddordeb yn y rhaglen, ynghyd ag enghraifft o’u hysgrifennu dramataidd, ac yna byddwn yn gwahodd y rheiny sy’n cyrraedd y rhestr fer i gyflwyno braslun o’i syniad gyda mwy o fanylion (gyda thâl).
Cam 1: Mynegi Diddordeb (erbyn 26 Chwefror 2025)
I fynegi eich diddordeb mewn bod yn rhan o Wrecslam!, cwblhewch ffurflen Mynegi Diddordeb yn y Gymraeg drwy Microsoft Forms, neu gallwch gyflwyno cais fideo nad yw’n fwy na 2 funud o hyd at: creu@theatr.com neu drwy WhatsApp ar 07908 439417. Fel rhan o’r broses, bydd angen i chi gyflwyno enghraifft o’ch sgriptio, a hefyd gyflwyno Ffurflen Monitro Cydraddoldeb.
Dyddiad cau i fynegi diddordeb: 12pm, Dydd Mercher 26 Chwefror 2025
Bydd panel yn ystyried y ceisiadau ac yn cytuno ar restr fer o 8 ymgeisydd: mae aelodau’r panel i’w cadarnhau.
Cam 2: Cyflwyno Braslun (rhestr fer yn unig)
Bydd y 8 ymgeisydd ar y rhestr fer yn clywed oddi wrthym ar 5 Mawrth 2025 gyda gwahoddiad i gyflwyno syniad am ddrama 10 munud o hyd.
Byddwn yn darparu ffurflen gais, yn ogystal â manylion ynghylch sut i gyflwyno eich syniad, i’r 8 sy’n cyrraedd y rhestr fer. Byddwn yn cynnig ffi o £50 yr un i aelodau’r rhestr fer wedi iddyn nhw gyflwyno eu brasluniau.
Dyddiad cau i geisiadau llawn: 12pm, Dydd Llun 31 Mawrth 2025
Wedi derbyn a thrafod pob un braslun, bydd y panel yn dewis hyd at 4 o’r rhain i gael eu datblygu ymhellach gyda ni. Bydd gwaith terfynol y dramodwyr yma’n cael eu llwyfannu yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.
Datblygu’r Ddrama Gomedi (artistiaid a benodwyd yn unig)
Yn ystod yr wythnosau canlynol, bydd y dramodwyr llwyddiannus yn mynd ati i weithio ar eu sgriptiau ar gyfer y perfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd y broses yn cynnwys gweithdai dramatwrgol a dosbarthiadau meistr.
Bydd y dramodwyr hefyd yn gweithio’n agos gyda chyfarwyddwyr proffesiynol fydd yn eu cynorthwyo a’u harwain trwy’r broses, bob cam o’r ffordd.
Y dyddiadau cyflwyno ar gyfer y drafftiau fydd:
Drafft 1: Dydd Llun, 19 Mai 2025
Drafft 2: Dydd Llun, 16 Mehefin 2025
Drafft terfynol: Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025
Bydd cyfarfodydd 1 wrth 1 i drafod a rhoi adborth yn cael eu trefnu yn nes at yr amser ac yn ddibynnol ar argaeledd yr unigolion.
Fis Awst, bydd y dramâu 10 munud o hyd yn cael eu llwyfannu am bedair noson yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Cymru a Theatr Clwyd. Bydd y dramodwyr yn derbyn ffi o £906.66 yr un am eu gwaith.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun hwn neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â Gavin Richards: gavin.richards@theatr.com