News Story
Ar ôl cymal cyntaf hynod lwyddiannus, mae Jeff Innocent, enillydd gwobr Comedïwr Prydeinig y Flwyddyn a seren ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dychwelyd ar gyfer ail hanner ei daith gyntaf ledled y wlad, Smart Casual.
Mae Jeff yn mynd â’i ddadansoddiad diwylliannol unigryw a hynod ddoniol ar daith am y tro cyntaf yn ystod gyrfa sydd wedi rhychwantu bron i dri degawd ac sydd wedi sicrhau enw da iddo fel un o gomedïwyr byw gorau’r wlad.
Mae'n dod â'i sioe, Jeff Innocent: Smart Casual i Ŵyl Gomedi Wrecsam fis Medi eleni, ac fe gawson ni sgwrs gydag o i gael gwybod mwy...
Beth allwn ni ei ddisgwyl o'ch sioe chi?
Awr o gomedi stand-yp. Dim ond dyn a meicroffon yn siarad yn hunangofiannol am bynciau fel dosbarth, hil, rhywedd a rhywioldeb. A Milgwn.
Pa un yw eich perfformiad mwyaf cofiadwy chi, boed dda neu'n ddrwg, a pham?
Mae'n debyg mai fy gig mwyaf cofiadwy i oedd ennill rownd derfynol Digrifwr Prydeinig y Flwyddyn yn The Comedy Store Llundain. Roedd rhai o’r digrifwyr gorau o bob cwr o'r wlad yn cymryd rhan ond doeddwn i ddim yn mynd i adael iddyn nhw fy nghuro i yn fy ninas fy hun. Roedd hefyd yn braf gan fy mod i'n fyddar ond roeddwn i wedi gadael fy nghymhorthion clyw gartref felly roeddwn i'n meddwl na fyddai gen i siawns o ennill o gwbl. Fel mae’n digwydd, roedd hi’n amlwg bod angen comedïwr swnllyd, byddar ar y gynulleidfa.
Dywedwch rywbeth wrthyn ni na fydd eich cynulleidfa chi’n ei wybod amdanoch chi?
Rhywbeth nad ydi pobl yn ei wybod amdanaf fi. Weithiau, rydw i'n hoffi meddwi a chrïo wrth wrando ar anthemau am golli cariad a chryfder benywaidd artistiaid fel Barbara Streisand a Gabrielle. Ond peidiwch â dweud wrth neb.
Rydych chi wedi dod yn seren fawr ar y cyfryngau cymdeithasol, sut mae hynny wedi teimlo ac ydych chi'n mwynhau byd y cyfryngau cymdeithasol?
Mae fy holl lwyddiant i ar y cyfryngau cymdeithasol wedi fy synnu i'n llwyr ond rydw i'n ei fwynhau'n fawr. Mae wedi golygu fy mod i wedi dod o hyd i gynulleidfa sy'n hoffi fy arddull benodol i o gomedi ac mae gen i berthynas uniongyrchol gyda nhw bellach sydd ddim yn cael ei chyfryngu gan fawrion y diwydiant fel cynhyrchwyr teledu asiantaethau comedi mawr. Mae hefyd wedi golygu cael fy adnabod sawl gwaith y dydd a gorfod tynnu hunluniau, unrhyw bryd ac unrhyw le, sy'n braf ar un ystyr, ond mae'n cymryd amser i ddod i arfer â hynny.
Oes yna jôc neu sgets y byddech chi wedi hoffi ei hysgrifennu?
Mae'r jôc y byddwn i wedi hoffi ei hysgrifennu yn un o jôcs cynnar Alexi Sayle. I aralleirio, "Roedd fy nhad i’n gomiwnydd ac yn gefnogwr Lerpwl mawr. Roedd ganddo lun uwchben y lle tân o Lenin yn sgorio'r gôl fuddugol i Lerpwl yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 1962. Y weithred ailgyffwrdd orau y mae'r KGB wedi'i gwneud erioed.”
Unrhyw gyngor i bobl sydd eisiau dechrau yn y byd comedi neu sydd mewn cyfnod cynnar yn eu gyrfaoedd?
Mae'r cyngor y byddwn i'n ei roi yr un fath â’r cyngor a gefais i gan y diweddar Tony Allen, prif bensaer y mudiad comedi amgen ar ddiwedd y 70au. "Gwybod pwy ydych chi, gwybod beth sydd gennych chi i'w ddweud, a mynd amdani.”
Ac yn olaf, beth sydd ar y gweill ar gyfer gweddill y flwyddyn / 2025?
Am weddill y flwyddyn yma, fe fydda’ i’n teithio'r DU gyda fy sioe unigol, Smart Casual. Yn 2025 fe fydda’ i’n ôl ar y gylchdaith gomedi ac yn ysgrifennu sioe newydd ar gyfer y daith nesaf. Ac yn mwynhau tynnu hunluniau ar hap ym mha le bynnag fydd cais am hynny.
I archebu tocynnau Gŵyl Gomedi Wrecsamcliciwch yma.