5 munud gyda Liz Price: Rheolwr Gweithrediadau yn Neuadd William Aston
See dates and times 31 Ion 2023
News Story
Ym mis Chwefror 2022 cyhoeddodd Theatr Clwyd a Phrifysgol Glyndŵr y byddai Theatr Clwyd yn cymryd yr awenau i redeg a threfnu rhaglenni Neuadd William Aston. 12 mis yn ddiweddarach ac mae digwyddiadau'n dechrau cael eu cynnal unwaith eto gyda rhaglen lawn yn 2023.
Mae Liz Price, sy'n lleol o Gorwen, wedi'i chyflogi fel Rheolwr Gweithrediadau yn Neuadd William Aston. Cawsom sgwrs gyda hi i weld beth sydd ar y gweill:
Llongyfarchiadau ar eich swydd newydd yn Neuadd William Aston. Soniwch wrthym am eich rôl a'r hyn rydych chi'n ei wneud fel Rheolwr Gweithrediadau.
Rheolwr Gweithrediadau yn Neuadd Aston Hall - mewn un frawddeg? Gweithio y tu ôl i'r llenni a blaen y tŷ, arwain ein tîm lleoliad newydd, rhoi croeso cynnes, cadw ein lleoliad yn ddiogel, y bar ar agor a'r dyfodol yn ddisglair i Neuadd William Aston. Fi hefyd yw prif geidwad y casgenni, y darganfyddwr eiddo coll a’r tasgmon rhan-amser.
Mae'n swnio fel eich bod yn brysur. Mae'n rhaid ei bod yn gyffrous cymryd yr awenau dros leoliad a dechrau o'r dechrau.
Yn sicr! Mae llawer o waith wedi'i wneud i ddod â lleoliad yn ôl yn fyw gyda thîm bach - dwi a Deryn (Rheolwr Technegol y Lleoliad) wedi bod yn gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llenni cyn i'r drysau hyd yn oed agor ym mis Tachwedd. O baentio ystafelloedd gwisgo i uwchraddio'r llwyfan, y sain a’r goleuadau – a gweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr i wneud i bethau... weithio! Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni yn y sefyllfa orau i roi'r croeso gorau i bawb, gan fod gan gymaint o bobl leol atgofion gwych am Neuadd William Aston.
Y peth gorau oedd recriwtio tîm lleol hollol newydd. Maen nhw wedi bod yn anhygoel am addasu, croesawu a bwrw ymlaen gyda phopeth sydd wedi cael ei roi iddyn nhw ers mis Tachwedd. Rydyn ni'n dal yn y cyfnod o geisio deall yr holl fanylion, sydd wedi bod yn heriol ond yn hwyl. Mae hanes ym mhob cornel o’r lleoliad yma, mae dod o hyd i fonion tocynnau Super Furries yn y seler, cryno ddisgiau demo gan fandiau lleol a chlywed yr holl straeon gan ein hymwelwyr hyd yma wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni, Theatr Clwyd Trust wir am wneud cyfiawnder â'r lleoliad a'i wneud yn adnodd gwerthfawr iawn i Wrecsam fel lle, y gymuned a’r ardal ehangach.
Rydych chi wedi dychwelyd i Ogledd Cymru o Lundain yn ddiweddar. Pa mor bwysig yw cael lleoliad fel hwn yn yr ardal?
Mae cymaint o botensial, dyma'r lleoliad mwyaf o'i fath yng ngogledd Cymru ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r croeso gorau yn ôl i bawb. Rydyn ni wir eisiau gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio i bawb a'n bod yn cael cymaint o amrywiaeth o gerddoriaeth, sioeau a digwyddiadau yma.
Ro'n i'n rhedeg lleoliad bwyd a cherddoriaeth yn ne Llundain drwy'r holl wahanol gyfnodau o Covid felly dwi’n deall pa mor anodd yw dim ond agor drysau unrhyw leoliad y dyddiau yma - mae'r heriau i gyrraedd y cam hwn i’r rhan fwyaf o leoliadau wedi bod yn wallgof, a dwi mor falch ein bod ni'n gallu croesawu cynulleidfaoedd yn ôl a symud ymlaen o’r fan hon.
Fel adeilad rhestredig a lleoliad a adeiladwyd yn yr 1950au, mae ganddo ei heriau, ond rydyn ni eisiau sicrhau ei fod yn lleoliad sy’n gweithio i bawb a'i fod yn hygyrch i'r gymuned leol ac yn rhan o'r hyn sydd wedi bod yn sin gerddoriaeth fywiog yn Wrecsam erioed.
Mae Neuadd William Aston wedi bod ynghau am rhy hir, felly rydyn ni am wneud yn siŵr ei fod yn gaffaeliad gwirioneddol i Wrecsam a gogledd Cymru yn gyffredinol.
Mae cymaint o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal eleni. At beth rydych chi’n edrych ymlaen?
Mae 2023 yn mynd i fod yn flwyddyn enfawr i ni ac rydyn ni'n bachu ar y cyfle i ddod ag amrywiaeth eang o berfformwyr, digwyddiadau a sioeau i Wrecsam. O gomedïwyr fel Frankie Boyle a Sarah Millican, i wyliau cwrw, digwyddiadau cymunedol lleol a sioeau teithiol, rydyn ni'n gobeithio gwneud Neuadd William Aston a Wrecsam yn gyrchfan i fwy o deithiau ac artistiaid.
Yn bersonol, dwi'n edrych ymlaen yn fawr at gael y gigs cerddoriaeth fyw mawr yn ôl, alla i ddim aros i weld 1200 o bobl yn ôl yn y Neuadd yn clywed y sain anhygoel - gwneud yr hyn y mae Neuadd William Aston wastad wedi’i fwriadu - bod yn gartref i gerddoriaeth a pherfformiadau! Gwyliwch y gofod a dilynwch ni ar-lein i gael gwybod mwy. Breuddwyd i mi fyddai cael y Super Furry Animals yn dychwelyd yma!
Pan nad ydych chi'n gweithio beth ydych chi'n hoffi ei wneud yn eich amser hamdden?
Dwi wedi sylweddoli'n ddiweddar bod gennyf obsesiwn gyda bwyd, ar ôl bod o gwmpas llawer o stondinau codi a marchnadoedd bwyd - dwi wrth fy modd gyda’r anrhefn a'r hyn sy'n deillio ohono, a dwi wir yn awyddus i gael fy musnes bwyd fy hun rhyw ddydd. Dwi hefyd yn mwynhau digwyddiadau cerddoriaeth a chomedi byw, ac yn helpu mewn llawer o wyliau yng Nghymru bob blwyddyn fel FOCUS Wales, Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Gŵyl Gomedi Machynlleth.