News Story
Bydd Syr Geoff Hurst yn dod i Neuadd William Aston yn 2025. Fe gawson ni sgwrs fach hefo fo i ofyn ambell gwestiwn…
Sut deimlad oedd ennill Cwpan y Byd yn 1966?
Mae’n anodd ei roi mewn geiriau, yn enwedig oherwydd mai dim ond y flwyddyn honno wnes i chwarae i Loegr am y tro cyntaf, felly fe ddigwyddodd pethau mor sydyn, a finnau’n ifanc, ond fe wnes i fwynhau pob eiliad.
Sut ymateb gawsoch chi gan y cyhoedd ar ôl ennill?
Credwch neu beidio, roedd o’n llai o beth bryd hynny. Fe gawson ni’n llongyfarch ac roedd hi’n amlwg yn gamp enfawr. Ond mae wedi dod yn fwy a mwy o beth dros amser oherwydd bod Lloegr heb ei ennill wedyn.
Pa un yw eich hoff gôl chi yn y ffeinal?
Mae pawb ym mhob man yn gofyn i fi am yr hatrig. Mae’n teimlo fel bod y gêm wedi mynd heibio mewn eiliadau. Mae’n siŵr mai fy ail gôl i ydy’r un enwocaf, oherwydd y dadlau, ond mae pob un yr un mor bwysig i fi.
Pwy oedd y chwaraewr gorau i chi chwarae hefo fo yn ystod eich gyrfa hefo Lloegr?
Dyna i chi gwestiwn! Roedd Bobby Charlton yn gawr. Roedd Alan Ball yn wefreiddiol yn ffeinal Cwpan y Byd. ’Wnaeth o ddim stopio rhedeg ac roedd o mor bwysig iddo fo, roedd ei gariad at ei wlad mor amlwg. Does yr un Sais wedi bod yn well am sgorio na Jimmy Greaves, ac roedd o’n fêt da hefyd. Yn amlwg roedd Martin a finnau’n chwarae i’r un clwb am flynyddoedd ac roedden ni’n deall ein gilydd ar y cae. Ond, ar y cyfan, MOORO, Bobby Moore, fo oedd yn pwyllo ac yn arwain pawb, ac am chwaraewr hefyd, felly fo ydy’r gorau siŵr gen i.
Rydyn ni wedi cael cyfleoedd da i ennill eto, yn enwedig yn 1970, 1990 ac yn amlwg yn ddiweddar hefyd. Mae’n dipyn o sioc ein bod ni heb ei ennill eto wedyn, ond fe wnaeth Gorllewin yr Almaen dalu’r pwyth yn ôl am ein buddugoliaeth ni drosodd a throsodd.
Rydw i’n gobeithio am y gorau bob pedair blynedd pan mae Cwpan y Byd yn cael ei gynnal. Fe wnaethon ni’n well na’r disgwyl y tro yma, rhoi hwb i’r wlad am ychydig wythnosau, felly fedra i ddim aros tan y tro nesa a’n gweld ni’n gwneud yn dda yn yr Ewros yn 2020.
Pa dîm ydych chi’n ei gefnogi?
West Ham ydy fy nhîm i, am byth! Ond rydw i’n byw yn bell o’r cae felly dim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn fydda’ i’n cael eu gweld nhw’n chwarae yno.
Sut deimlad oedd cael eich urddo?
Roedd cael fy urddo yn anrhydedd enfawr. Mae’n anodd gwybod be arall i’w ddweud ond ie, braint enfawr a gwell byth cael fy urddo am ennill rhywbeth dros Loegr.
Beth ydych chi’n hoffi ei wneud yn eich amser hamdden?
Rydw i’n treulio llawer o amser hefo fy ngwraig a fy wyrion a wyresau, ac yn gweld fy mhlant cymaint â phosibl. Rydw i’n dal i fynd i rai o gemau Lloegr yn Wembley ambell waith ac yn gwneud llawer o ymddangosiadau personol, fel y daith theatr fis Mawrth nesaf hefo Terry a Freda, fy asiantau yn A1 Sporting Speakers, yn ogystal â chiniawau chwaraeon a llawer o ddigwyddiadau corfforaethol hefyd.
Beth yw eich atgofion hapusaf am eich gyrfa?
Fy hoff gaeau i oedd yr hen Wembley ac Upton Park. Awyrgylch gwych yn y ddau le ac atgofion melys iawn.
Beth yw eich barn chi am yr arian mawr mae chwaraewyr yn ei gael y dyddiau yma?
Mae’r cyflog wedi newid! Rydw i’n meddwl mai ryw £20 yr wythnos oeddwn i’n ei gael yn y 60au. Ond, pob lwc i chwaraewyr heddiw. Mae’n fyd gwahanol, mae’n yrfa fer, fe ddylen nhw fwynhau tra maen nhw’n gallu.
Pam ydych chi’n mynd ar y daith theatr yma?
Rydyn ni wedi gwneud mwy na 100 o sioeau ers 2018 ac wedi cael amser grêt, felly roedden ni eisiau mwynhau’r profiad eto ac eto. Roedd yn gymaint o hwyl ac rydyn ni wedi cael croeso da. Rydyn ni’n edrych ymlaen at grwydro’r wlad a chyfarfod cefnogwyr Lloegr – a gwell byth os ydyn nhw’n gefnogwyr West Ham hefyd! Mae bob amser yn ddiddorol cael hwyl gyda’r bobl sydd wedi dilyn pêl-droed am yr holl flynyddoedd. Gobeithio bod gen i stori ddiddorol i’w hadrodd ac ychydig wyddwn i, ar yr 31ain o Orffennaf yn 1966, pan oeddwn i’n ddigon ffodus i sgorio fy hatrig yn ffeinal Cwpan y Byd, y byddai pobl yn dal i ofyn amdani hanner cant a dau o flynyddoedd yn ddiweddarach! Ac mae'r ffaith nad ydi o wedi digwydd ers hynny wedi sicrhau ei fod yn bwynt trafod mawr.