News Story
Dyddiaduron yn barod, mae gan William Aston Hall arlwy enfawr ar gyfer 2024. Mae rhywbeth at ddant pawb gyda cherddoriaeth, comedi, sioeau teulu, sgyrsiau a llawer mwy.
Bye Bye Baby (18 Ionawr)
Teyrnged wefreiddiol iโr ffenomenon gerddorol Jersey Boys a cherddoriaeth oesol, eiconig Frankie Valli & The Four Seasons. Mwynhewch noson iโw chofio gyda harmonรฏau pedair rhan anhygoel, falsetto i godiโr to a choreograffi llawn steil.
UB40 The Legacy (22 Chwefror)
Cyfle i glywed y caneuon mawr i gyd, gan gynnwys Red Red Wine, Homely Girl, Kingston Town, Rat in mi Kitchen, Food For Thought a llawer mwy mewn perfformiad trydanol ac egnรฏol gan y band 8 aelod yma, gan gynnwys adran gyda 3 chorn sydd wedi cael eu cymeradwyoโn bersonol gan Ali Campbell.
Sioe syโn cael ei pherfformio gan y Johnny2bad sydd wedi ennill bri rhyngwladol gan ail-greu seiniau gorau cewriโr byd reggae o Birmingham, UB40.
Cyngherddauโr WSO
Eleni mae Cerddorfa Symffoni Wrecsam (WSO) yn cyflwyno Italy and the Eternal City (25 Chwefror) gyda cherddoriaeth oโr ffilm Gladiator, detholiad o Arias gan Puccini a darn epig Respighi syโn gorffen gyda lleng yn gorymdeithio ar hyd y Via Appia. Mae Bohemian Nights (4 Mai) yn arddangos Antonรญn Dvoลรกk syโn adnabyddus am ei weithiau pwerus a melodig yn asio cerddoriaeth werin Bohemia gyda ffurfiau clasurol. Mae Music From Home (20 Gorffennaf) yn siwrnai gerddorol o amgylch Ynysoedd Prydain, o Gernyw i Ynysoedd yr Alban, gydag ymweliadau รข Chymru, Iwerddon a Lloegr ar hyd y daith. Gyda Helen Harrison yn arwain am y tro cyntaf, maeโr cyngerdd yn cynnwys perfformiad cyntaf gogledd Cymru o Forfa Rhuddlan gan Morfydd Llwyn Owen.
Fascinating Aรฏda the 40th Anniversary Show! (7 Mawrth)
Mae Dillie, Liza ac Adรจle, triawd cabaret cerddorol mwyaf beiddgar a mentrus Prydain, yn dod รขโu sioe i Wrecsam. Yn gwbl unigryw a difyr, gyda dychan miniog, yn fudr, doniol, ymosodol, gwleidyddol, ingol a heriol - maeโr triawd mentrus ymaโn feistresau ar eu crefft o hyd. I nodiโr garreg filltir ryfeddol yma, bydd y sioe yn cynnwys ffefrynnau poblogaidd a rhai caneuon newydd dieflig o ddoniol.
Ben Fogle: Wild (17 Mawrth)
Mae sioe newydd Ben Fogle, WILD, yn dod รข straeon am obaith, posibilrwydd a phositifrwydd yn fyw ar y llwyfan. O'i gyfarfyddiadau rhyfeddol รข'r byd dynol a naturiol, bydd Ben yn mynd รข chi ar siwrnai gyda straeon ysbrydoledig a dyrchafol am hunan-ddarganfyddiad, a fydd yn gwneud i chi deimlo wedi eich swyno, eich goleuo aโch diddanu.
Sir Ranulph Fiennes: Mad, Bad and Dangerous (2 Ebrill)
Bydd Syr Ranulph yn rhannu straeon oโi gampau aโi anturiaethau chwedlonol, gan adrodd hanesion di-ri am gampau mwyaf rhyfeddol y byd o feiddio ac archwilio. Yn cael ei chyflwyno yn ei ffordd ddihafal ei hun gyda delweddau syfrdanol na welwyd oโr blaen a fideos cartref, maeโr sioe ymaโn siลตr oโch diddanu aโch ysbrydoli chi i chwilio am eich anturiaethau eich hun ar gyfer eich bywyd.
Tom Davis: Underdog (5 Mai)
Wrth gychwyn ar ei daith fwyaf hyd yn hyn gydaโi sioe newydd sbon, Underdog, bydd Tom yn edrych ar fywyd fel person annhebygol o lwyddo. O adael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau i flynyddoedd yn gweithio ar safleoedd adeiladu, yr holl ffordd iโr llwybr anodd i fod yn dad ac actio mewn ffilmiau mawr ac eto clywed gan weinydd ei fod wedi aneluโn rhy uchel.
Simon Reeve (16 Mai)
Mae Simon yn awdur ac yn gyflwynydd teledu, ac yn un o deithwyr mwyaf anturus y byd. Bydd Simon yn cynnig straeon, sawl syrpreis, gwefr, meddyliau dyfnach a chwerthin oโr galon. Mae eisiau gwthio ac annog ei gynulleidfaoedd i fentro allan o'u parth cysurus, cymryd ychydig o risgiau mewn bywyd, a chofleidio'r awyr agored gwych a'r byd ehangach. Gyda ffilmio y tu รดl iโr llenni a delweddau syfrdanol, bydd Simon yn ysbrydoli ac yn atgoffa cynulleidfaoedd bod angen mwy o siwrneiau yn ein bywydau ni i gyd, a digon o brofiadau gwyllt.
Jimmy Carr: Laughs Funny (8 Mehefin)
Heb fod angen unrhyw gyflwyniad, mae Jimmy Carr yn dychwelyd i Wrecsam. Os ydych chi'n hoff o jรดcs un lein cyflym, mentrus, byddwch yn barod i fod yn hapus iawn. Mae Jimmy yn dweud jรดcs, ac mae jรดcs fel magnetau. Mae jรดcs yn denu pobl, ond maen nhw hefyd yn gallu eich gwthio chi i ffwrdd. Mae rhai pobl yn dychryn o glywed brand tywyll Jimmy o gomedi. Dydiโr sioe yma ddim ar eu cyfer nhw. Ond os mai dyma'r math o beth rydych chi'n ei hoffi, yna mae hon yn sioe y byddwch chi'n ei hoffi.
Zog and the Flying Doctors (22-23 Mehefin)
Mae Zog, myfyriwr hynod frwd sydd wedi troi'n ambiwlans awyr, yn dal i lanio gyda bang-crash-thymp. Gyda chriw y Flying Doctor, Princess Pearl a Sir Gadabout, maen nhwโn rhoi sylw i fรดr-forwyn sydd wedi llosgi yn yr haul, uncorn sydd ag un corn yn ormod a llew sydd wedi dal y ffliw.
Yn seiliedig ar ddilyniant poblogaidd Julia Donaldson ac Axel Scheffler, mae Freckle Productions (Zog, Stick Man, Tiddler & Other Terrific Tales) yn รดl, gyda cherddoriaeth a geiriau gan Joe Stilgoe (Zog), gydaโr fersiwn gwbl fodern yma o stori dylwyth teg glasurol.
The Lion Inside (17-18 Awst)
Stori i gynhesuโr galon am hyder, hunan-barch a llygoden fechan swil sy'n cychwyn ar siwrnai i ddysgu sut i ruo. Yn seiliedig ar stori hynod lwyddiannus gan Rachel Bright a Jim Field, maeโr addasiad llwyfan newydd sbon yma wedi cael ei gyfarwyddo gan Sarah Punshon (The Jungle Book), gyda cherddoriaeth a geiriau gan Eamonn OโDwyer (Brief Encounter).