News Story
Ymunwch â dathliad pen-blwydd nodedig Mugenkyo yn 30 oed, gyda sioe arbennig iawn o guriadau cryf, gwychder gweledol ac egni hanfodol.
Fe gawson ni sgwrs gyda nhw i gael gwybod mwy…
O beth mae'r drymiau wedi’u gwneud?
Mae'r drymiau nagado sydd wedi'u cerfio o foncyffion coeden sengl wedi'u gwneud o keyaki - math o lwyfen Japaneaidd. Mae'r mwyaf un o'r o-daiko (drwm mawr) wedi'i wneud o goed Bubinga Affricanaidd. Mae'r drymiau casgen okedo wedi'u gwneud o gedrwydd.
O beth mae'r crwyn wedi'u gwneud?
Maen nhw wedi cael eu gwneud o groen buwch. Yn Japan hynafol roedd y Taiko gwreiddiol yn cael eu gwneud o groen mochyn daear ac anifeiliaid llai eraill, ac wedyn o groen ceffyl. Nawr fe allwch chi gael drymiau croen ceffyl a buwch, er bod croen buwch yn llawer mwy cyffredin.
Beth mae'r holl weiddi yn ei olygu?
Rydyn ni'n gweiddi "sup", "sore", "ha", "sya", ac ati wrth chwarae. Dydi'r rhain ddim yn golygu dim byd mewn gwirionedd. Bloeddiadau ar hap ydi'r rhain (nid ciwiau!) i ryddhau ein hegni "ki", a hefyd i weiddi anogaeth ar y chwaraewyr eraill. Maen nhw’n debyg i'r bloeddiadau "kiai" mewn crefftau ymladd.
Ydi Taiko yn ysbrydol?
Cerddoriaeth grefyddol ac ysbrydol ydi Taiko yn wreiddiol, sy’n cael ei chwarae mewn temlau a chysegrfeydd yn Japan. Yn Japan, mae Taiko yn dal i gael ei chwarae mewn pob math o seremonïau crefyddol, ond mae hefyd yn cael ei chwarae ym mhob lleoliad a phwrpas posib arall. Yn Mugenkyo, er bod gan Taiko ystyr ysbrydol i aelodau unigol y grŵp, fel grŵp rydyn ni’n ymwneud yn bennaf â Taiko fel celfyddyd perfformio.
Faint o grwpiau Taiko sydd yna?
Mae tua 20,000 o grwpiau yn Japan - grwpiau cymunedol yn bennaf ond gyda llond llaw o grwpiau rhagorol o'r radd flaenaf. Mae cannoedd o grwpiau yn UDA, ac ar y cyfrif diwethaf tua 50 o grwpiau perfformio yn Ewrop - a Mugenkyo yw'r unig grŵp teithiol proffesiynol o blith y rhain.
Ydi merched yn chwarae Taiko yn Japan?
Yn yr hen amser doedd merched ddim yn cael chwarae Taiko, oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn rhy llygredig i chwarae'r offeryn cysegredig! Fodd bynnag, dydi hyn ddim yn wir bellach, ac ers y 1950au fe fu twf aruthrol yn nifer y merched sy'n chwarae Taiko. Nawr mae yna lawer o grwpiau merched yn unig a grwpiau cymysg, mewn gwirionedd mae'n debyg bod cymaint o chwaraewyr Taiko benywaidd â dynion.
Ydych chi'n ad-libio yn eich chwarae?
Ydyn. Fe fuon ni’n ffodus iawn i ddysgu’r arddull Hokuriku, sef un o’r ychydig ardaloedd yn Japan lle mae byrfyfyrio yn rhan o Taiko traddodiadol. Mewn ardaloedd eraill o'r wlad mae Taiko yn llawer caethach. Ar ôl i ni ddysgu’r patrymau traddodiadol, fe gawson ni ganiatâd i’w cymysgu nhw o gwmpas – felly dyma ffurf ar ad-libio o fewn strwythurau Taiko.
Ydych chi'n defnyddio nodiant cerddorol gorllewinol?
Yn draddodiadol mae Taiko yn cael ei ddysgu gan ddefnyddio nodiant geiriol: er enghraifft "Don Kara Ka Su Don Don". Yn Mugenkyo rydyn ni’n dal i ddysgu rhythmau ar lafar, gan ein bod ni’n credu bod llafarganu rhythmau yn eich galluogi chi i deimlo'r rhythm gyda'ch bod cyfan. Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn defnyddio nodiant fel dull o recordio ein caneuon ni.
At bwy mae Taiko yn apelio?
Efallai ei fod yn ystrydeb, ond mae Taiko wir yn apelio at bawb. Mae Taiko yn torri ar draws ffiniau cerddorol – rydyn ni wedi perfformio mewn gwyliau ar gyfer pob math o gerddoriaeth - jazz, clasurol, dawns, roc, gwerin. Taiko mewn gwirionedd ydi "cerddoriaeth y bobl".
Beth mae "Mugenkyo" yn ei olygu?
Mae posib cyfieithu Mugenkyo fel "atsain diderfyn" "sain tragwyddol" "rhythm diddiwedd". Fe wnaethon ni enwi'r grŵp ar ôl grŵp ein hathrawon "Hibiki Daiko" – mae posib darllen Hibiki fel "Kyo" hefyd. Y syniad oedd nad ydi atsain Taiko yn deall unrhyw ffiniau a’i fod yn lledaenu ledled y byd.
Pa mor draddodiadol ydi Mugenkyo?
Rydyn ni’n chwarae offerynnau traddodiadol ac mae gennym ni sylfaen gref yn nisgyblaeth draddodiadol Taiko. Fodd bynnag, rydyn ni’n fodern ein dull. Rydyn ni’n cyfansoddi ein cerddoriaeth ein hunain ac rydyn ni’n datblygu ffurf unigryw Ewropeaidd ar Taiko.
Ydych chi wedi cymysgu Taiko ag offerynnau eraill neu ddisgyblaethau eraill erioed?
Rydyn ni wedi teithio sawl cydweithrediad gyda Cherddorfa Jazz Genedlaethol yr Alban. Fe fuon ni’n gweithio ar brosiect ar y cyd gyda phibau, telyn, ffidil, canu Indiaidd, tabla a dawns. Fe wnaethon ni gyd-ysgrifennu’r sioe “Rinnetensho”, gyda taiko, dawns, cerddoriaeth electronig a delweddau wedi’u taflunio. Fe fuon ni’n cydweithio â ffidil, piano a llais ar gyfer y BBC World Showcase, ac rydyn ni hefyd wedi cydweithredu â cherddorion roc, meistri ymladd cleddyfau a dawnsio bol.
Beth ydi barn cynulleidfaoedd Japan am Mugenkyo?
Rydyn ni'n perfformio yn Japan yn rheolaidd mewn theatrau, gwyliau a digwyddiadau, yn ogystal ag ymddangos ar y teledu a'r radio ac rydyn ni wedi cael croeso brwd! Mae pobl Japan yn gwerthfawrogi'r ffaith ein bod ni’n cymryd Taiko o ddifrif ac yn parchu'r ffurf gelfyddydol yn fawr.
Ble allaf i ddysgu sut i wneud hyn?
Rydyn ni’n cynnal gweithdai o'n canolfan ni: y Mugen Taiko Dojo, yn Ne Swydd Lanark, yr Alban. Y Mugen Taiko Dojo yw canolfan ddrymio Taiko bwrpasol gyntaf y DU. Mae dosbarthiadau a gweithdai preswyl yn cael eu hysbysebu drwy ein cylchlythyr ni a’n gwefan.
I archebu tocynnau Mugenkyo Taiko Drummers: In Timecliciwch yma.