Awake My Soul: The Mumford and Sons Story. Cyfweliad gyda’r Cyd-grëwr: Actor, Cerddor ac Awdur o Gymru, Samuel Freeman
See dates and times 26 Ion 2024
News Story
Awake My Soul yw’r cyngerdd byw anhygoel sy’n dathlu Mumford and Sons, un o fandiau roc gwerin Prydeinig enwocaf yr 21ain ganrif a’u sain unigryw. Byddwch yn cael eich tywys drwy stori eu siwrnai gerddorol, o fariau di-nod Gorllewin Llundain i deithiau i stadiymau enfawr gyda phob pob tocyn wedi’i werthu, albymau aml-blatinwm a pherfformiad preifat i Barrack Obama.
Yn cynnwys band pedwar darn byw rhagorol yn cyflwyno sain unigryw Mumford and Sons ar y llwyfan gyda'u holl gerddoriaeth wych gan gynnwys Little Lion Man, I Will Wait ac Awake My Soul. Dyma sioe ‘Stomp and Holler’ na ddylech chi ei cholli!
Fe gawsom ni sgwrs gyda Sam Freeman i ofyn iddo am ei brosiect newydd Awake My Soul: The Mumford and Sons Story.
Beth wnaeth eich denu chi at Awake My Soul: The Mumford and Sons Story?
Rydw i a Matthew Emeny (Cyd-grëwr) wedi cael amser gwych yn gweithio gyda’n gilydd dros y 4 blynedd diwethaf, yn ysgrifennu ac yn perfformio ein sioeau ledled y DU. Rhan enfawr o’n theatr ni yw cerddoriaeth fyw, ac roedd ein steil ni o roc gwerin bob amser wedi’i ysbrydoli gan ein hoffter ni o Mumford and Sons. Fe fydden ni’n teithio drwy’r haf yn ein fan, yn gwrando ar ein hoff fand, ac yn meddwl, beth pe baen ni’n creu sioe yn benodol am ein hoffter ni o’r grŵp anhygoel yma?!
Sut aethoch chi ati i greu'r sioe?
Mae’n dechrau gyda’r band bob amser, ac roedd rhaid i ni ffurfio grŵp o gerddorion dawnus gydag angerdd am adfywiad gwerin. Wedyn, llawer o ymchwil. Sut wnaethon nhw ffurfio? Sut oedd y blynyddoedd cynnar iddyn nhw? Sut wnaethon nhw wneud y traciau hynny? Ac wrth gwrs, wrth galon popeth, eu cerddoriaeth cwbl wych.
Beth am gerddoriaeth Mumford and Sons sy’n para?
Rydw i'n meddwl bod Mumford and Sons mewn moment arbennig mewn gwirionedd. Ochr yn ochr â dewis o fandiau gwych eraill, fe ddaeth yr adfywiad gwerin i’r blaen yn y byd roc. Mae'r effaith gafodd hynny ar gerddoriaeth boblogaidd ers hynny yn amlwg. Nid yn unig hynny, ond mae eu sain nhw’n diffinio amser penodol, ffasiwn a diwylliant penodol y bydd cymaint o bobl yn eu cofio ac yn eu cysylltu ag atgofion hyfryd.
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf am fynd ar daith gyda’r sioe?
Dydw i ddim yn gallu aros i deithio ledled y DU a chwrdd â chymaint o gefnogwyr anhygoel. Ni i gyd gyda'n gilydd mewn un lle, mae'n mynd i fod yn un parti ‘stomp and holler’ mawr!
Sut daethoch chi’n rhan o fyd y theatr ac actio?
Wrth dyfu i fyny yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, roeddwn i’n ffodus i gael theatr anhygoel ar garreg fy nrws. Drwy fy addysg mewn cerddoriaeth, drama a mynychu rhaglen Theatr Ieuenctid y Torch, fe wnes i ddatblygu hoffter a dyhead i weithio yn y celfyddydau. Ar ôl rhywfaint o hyfforddiant ffurfiol ac ychydig o flynyddoedd yn y swydd, fe allaf i ddweud yn sicr na allwn i weld fy hun yn gwneud unrhyw beth arall.
Beth ydych chi'n ei hoffi am fod yn Actor a Cherddor yng Nghymru?
Mae cysylltiad diwylliannol rhwng y celfyddydau perfformio a hunaniaeth Cymru, o’r Mabinogion i’r Eisteddfod, Corau Meibion, siantiau rygbi, Dylan Thomas, y Stereophonics… fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen! Mae gweithio yng Nghymru yn gwneud rhywbeth arbennig yn fy mhen a fy nghalon i. Mae'n anodd ei ddisgrifio, ond rydw i'n teimlo ymdeimlad real iawn o berfformio gartref yma. Rydw i’n gwybod na fyddwn i wedi dod yn pwy ydw i oni bai am y bobl greadigol welais i wrth dyfu i fyny, a gobeithio, yn fy ffordd fach fy hun, y gallaf i roi’r cyfle hwnnw i genedlaethau’r dyfodol.
Mae Awake My Soul: The Mumford and Sons Story yn chwarae yn Neuadd William Aston, Wrecsam ar 10fed Mawrth 2024 - Cliciwch yma