Irish Annie’s – Cyfweliad Holi ac Ateb gyda Ricky Tomlinson
See dates and times 7 Chwef 2024
News Story
Mae’r Trysor Cenedlaethol Ricky Tomlinson ar daith y gwanwyn yma a bydd yn serennu fel rhan o gynhyrchiad newydd yn y DU ac Iwerddon o’r gomedi gerddorol lwyddiannus, Irish Annie’s.
Mae’r sioe lwyfan fyw, sydd wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan y canwr gyfansoddwr dawnus Asa Murphy, yn dathlu popeth gorau am y diwylliant Gwyddelig ac yn llawn cerddoriaeth a chwerthin.
Bydd yr actor, y digrifwr a’r cerddor brwd, Ricky, yn ymuno â Murphy, Catherine Rice – sy’n chwarae rhan y landledi nodweddiadol mewn bar Gwyddelig, a’r band chwe-darn byw gwych, The Shenanigans, ynghyd ag ambell ddigrifwr arall gwallgof, am noson o gomedi, cerddoriaeth ac anhrefn cwbl wefreiddiol.
Mae Ricky yn adnabyddus i gynulleidfaoedd am ei rannau ar y sgrin fach, gan gynnwys Bobby Grant yn Brookside, DCI Charlie Wise yn Cracker, a Jim Royle yn The Royle Family. Fe chwaraeodd hefyd y brif ran yn y ffilm Mike Bassett: England Manager. Yma mae’n siarad am Irish Annie’s, pam y bydd yn Jim Royle am byth i rai pobl – a pham, yn 84 oed, mae’n caru bywyd ac mor brysur ag erioed.
Sut byddech chi'n disgrifio Irish Annie’s?
Mae'n heintus. Mae i unrhyw un sy'n hoffi chwerthin, i deimlo'n dda tu mewn, gallu cymryd rhan. Mae'n creu teimlad da. A’r hyn rydw i’n ei hoffi amdano, ac mae hyn yn anhygoel, does dim ots ble rydyn ni wedi chwarae, mae’r diweddglo fel Glastonbury i bensiynwyr! Maen nhw ar eu traed yn dawnsio, yn chwifio eu bagiau llaw, yn chwifio eu hetiau. Mae'n anghredadwy!
Beth ydi eich rôl chi yn y sioe?
Rydw i’n gwsmer yn y bar. Fy rôl i ydi creu ychydig o chwerthin ar y llwyfan, annog pobl wrth iddyn nhw ddechrau canu, ac os oes gen i damborîn neu offeryn, fe fydda’ i’n ymuno. Ricky Tommo ydw i mewn gwirionedd, neu Jim Royle, neu bwy bynnag rydych chi eisiau i mi fod. Rydw i wedi arfer diddanu mewn tafarndai. Mae'n dibynnu ble rydych chi, ond weithiau os oes rhywun yn y gynulleidfa y gallwch chi gael ychydig o hwyl gyda nhw, rydyn ni'n gwneud hynny hefyd. Mae gennym ni ychydig o drwydded i gael hwyl gyda'r gynulleidfa.
Fe wnaethoch chi sôn am chwarae’r tamborîn, ond rydych chi’n gallu chwarae banjo a harmonica hefyd. Dywedwch fwy wrthyn ni am eich hoffter chi o gerddoriaeth, a'r gerddoriaeth yn y sioe.
Mae’r gerddoriaeth yn Irish Annie’s yn wych – Asa Murphy, am ganwr! Ac mae wrth ei fodd gyda'r hyn mae'n ei wneud. Rydw i'n caru cerddoriaeth Wyddelig. Fe wnes i recordio cân Wyddelig o'r enw Are You Looking at Me? (gan fand cefnogi Shane Macgowan, The Popes) ac fe gyrhaeddodd y 30 uchaf felly roeddwn i wrth fy modd gyda hynny. Roedd y fideo yn cynnwys Mickey Starke (Sinbad yn Brookside) a Noddy Holder - roedd yn rhaid i ni arwyddo cytundeb gyda Noddy. Roedd eisiau 2/6, brechdan cig moch ac wythnos yn fy ngharafán i. ’Wnes i erioed gadw at y cytundeb felly rydw i’n aros am y llythyr gan y cyfreithiwr!
Yn y pen draw, dathliad o ddiwylliant Gwyddelig ydi Irish Annie’s. Oes gennych chi unrhyw dreftadaeth Wyddelig eich hun?
Mae Sue Johnston a minnau newydd wneud rhaglen lle maen nhw'n cymryd eich DNA chi ac yn gallu dweud wrthych chi pwy oedd eich cyndadau. Dydw i ddim wedi cael fy un i eto er bod Sue wedi cael gwybod. Rydw i’n aros i weld oes gen i waed y Gwyddelod.
Rydych chi wedi chwarae rhai cymeriadau poblogaidd iawn dros y blynyddoedd. Os bydd pobl yn eich stopio chi ar y stryd, am bwy maen nhw eisiau siarad?
Roeddwn i yn Anfield yn ddiweddar, ac roedd pobl yn dod ata’ i ac yn dweud: “Gaiff y mab lun efo chi Jim?” Mae pobl hŷn yn tueddu i fy ngalw i’n Bobby, a gofyn “sut mae Sheila?” Mae hyn yn digwydd ym mhob man. Rydw i’n meddwl ei fod yn hyfryd. Does dim ots ble rydych chi'n mynd. Ac os ydyn nhw’n ifanc, rywle yn y sgwrs fe fyddan nhw’n dweud ‘my arse’! Er roeddwn i mewn digwyddiad elusennol yn Lerpwl unwaith, ac roeddwn i'n llofnodi lluniau i bobl pan ddaeth dynes mewn ffwr ata’ i ac fe wnes i ofyn oedd hi eisiau llun wedi’i lofnodi ac fe ddywedodd hi: “allwch chi roi ‘my bottom’ arno fe?”!
Ydi hi’n deg dweud bod Brookside yn foment bwysig yn eich gyrfa chi?
Ydi. Dim ond un swydd arall oeddwn i wedi'i gwneud bryd hynny. A sut ges i’r rhan ydi am fy mod i wedi gwneud un ddrama - mewn gwirionedd roeddwn i wedi blyffio fy ffordd i mewn i Play for Today, wedi’i chyfarwyddo gan Roland Joffé, o’r enw United Kingdom. Fe gafodd ei dangos ar y teledu tra oedd Andy Lynch a Jimmy McGovern yn ysgrifennu straeon ar gyfer Brookside. Fe welodd Andy Lynch fi ar y sgrin a ffonio Phil Redmond a dweud: “Rydyn ni newydd ddod o hyd i Bobby Grant.”
Rydych chi hefyd yn siarad gyda llawer o hoffter am eich cyfnod yn The Royle Family.
O bryd i’w gilydd, rydw i’n cael fy ngwahodd i gynnal sgwrs, ac rydw i’n dweud wrth bobl am The Royle Family, ac amdanon ni'n chwerthin. Rydw i’n cofio pan gymerodd Craig Cash, oedd yn chwarae rhan Dave, 14 ymgais i ddweud un gair oherwydd ein bod ni’n gwneud iddo chwerthin yn fwriadol, fi a Ralf Little. Yn y diwedd, fe wnaeth Caroline (Aherne) iddo fo fynd i sefyll yn y gornel ddrwg. Oherwydd doedd o ddim yn gallu rheoli ei hun. Yn ddiweddar fe wnaethon ni ffilm ddogfen fer, dim ond fi, Lurkeo (Ralf Little), Sue Johnston a Craig Cash, gan eistedd a siarad am Caroline a Nana (Liz Smith) a Twiggy (Geoffrey Hughes) a Joe (Peter Martin). Roedd yn braf iawn, adrodd y straeon hynny. Nana oedd fy ffefryn i, roeddwn i'n ei charu hi. Roedd hi'n anhygoel. Hyd yn oed ar ei diwrnod i ffwrdd, roedd hi’n dod ar y set, bob amser cinio. Roeddwn i’n arfer dweud wrthi – ‘mi rydach chi’n warthus! Be ydach chi'n feddwl, digwydd bod yn pasio? Ar yr union amser pan rydyn ni’n cael ein cinio?!’ Ac fe fyddai hi’n dweud: “Digwydd bod yn pasio oeddwn i!” Pan wnaeth hi ymddeol, fe symudodd hi i Worthing, ac roedd Ralf Little yn arfer mynd i’w gweld hi a mynd â thusw o flodau neu fasged o ffrwythau neu fwndel o gylchgronau merched iddi.
Rydych chi'n 85 oed eleni, ond mae'n ymddangos nad oes gennych chi unrhyw fwriad i arafu. Beth arall ydych chi'n gweithio arno yn ogystal ag Irish Annie’s?
Rydw i’n gaeth i waith! Rydw i’n gwybod y dylwn i fod yn rhoi fy nhraed i fyny, ond rydw i wrth fy modd yn gweithio ac rydw i wrth fy modd yn codi yn y bore a gwybod beth sy’n rhaid i mi ei wneud. Bob tro rydych chi'n mynd i'r gwaith rydych chi'n cwrdd â gwahanol bobl, yn clywed straeon gwahanol ac yn dysgu pethau gwahanol. Rydw i’n cael amser gwych ac rydw i wedi cwrdd â phobl arbennig. Rydw i wedi bod yn gwneud cyfres deledu gyda Sue Johnston o’r enw Ricky and Sue Take a Trip or Two. Mae gweithio gyda Sue yn fendigedig. Rydyn ni wedi adnabod ein gilydd ers 40 mlynedd bellach ac rydyn ni wedi chwerthin lot fawr dros y blynyddoedd. Rydw i hefyd newydd orffen fy llyfr cyntaf i blant ac yn aros i ddarlunydd ddod i fy ngweld i. Rydw i’n gofyn i fy wyrion ei ddarllen, ac maen nhw wrth eu bodd. Mae’n stori antur ond mae hefyd yn sôn am yr amgylchedd a gofalu am gefn gwlad, ond heb fod yn ddogmatig.
Yn y cyfamser, beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf am daith 2024 y DU ac Iwerddon o Irish Annie’s?
Efallai bod hyn yn swnio'n rhyfedd, ond rydw i’n edrych ymlaen at gwrdd â'r bobl ar ôl y sioe sy'n dod i'n gweld ni. Rydw i’n hen ffasiwn, a fi ydi fi, ond rydw i eisiau dweud wrthyn nhw – diolch i chi am ddod i’r sioe yma, diolch i chi am roi eich cefnogaeth i ni. Ac rydyn ni'n treulio cymaint o amser yno ar ddiwedd y sioe ag ydyn ni ar y llwyfan. Achos rydyn ni’n cael amser gwych pan rydyn ni ar y ffordd. Rydyn ni i gyd yn cyd-dynnu yn ardderchog, a does dim llawer o bobl yn gallu dweud hynny. Rydyn ni'n chwarae jôcs ymarferol ar ein gilydd, rydyn ni'n cael gymaint o hwyl. Dyna ydw i'n edrych ymlaen ato hefyd.
Mae Irish Annie's yn chwarae yn Neuadd William Aston, Wrecsam ar 11fed Mawrth 2024 - Cliciwch yma