News Story
Does dim unrhyw artist Prydeinig arall sy'n chwarae i gynulleidfa deledu fwy nag o. Am dri mis o bob blwyddyn, mae'n chwarae i gynulleidfa o filiynau. Fo ydi'r boi y mae pawb yn adnabod ei lais - ac eto fo hefyd ydi'r boi nad oes llawer o bobl yn gwybod amdano.
Tommy Blaize ydi llais Strictly Come Dancing, y dyn llawn enaid gyda’i nodau peraidd sy’n cyfareddu’n wythnosol gyda’i lais syfrdanol. Ac mae wedi bod yno ers 20 mlynedd. Mae mor syml â hynny.
Fel prif leisydd band Strictly Come Dancing y BBC, mae perfformiadau pwerus ond sensitif Tommy wedi helpu i greu rhai o eiliadau teledu mwyaf cofiadwy’r cyfnod diweddar. Gan ganu’n fyw i gynulleidfa fyw bob wythnos, mae sain swynol Tommy yn rhan annatod o ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Dechreuodd ar ei yrfa ganu yn ifanc iawn, yn naw oed gyda The Blaize Brothers, ochr yn ochr â’i frodyr Tony a Darrin, lle dysgodd ganu o flaen cynulleidfa fyw am y tro cyntaf, gan chwarae mewn clybiau ar draws gogledd orllewin Lloegr am chwe blynedd yn y 1970au.
Mewn gyrfa sy’n rhychwantu mwy na 50 mlynedd ryfeddol, mae Tommy wedi mynd ymlaen i weithio gyda rhai o artistiaid enwocaf a mwyaf nodedig y byd, o Diana Ross i Queen; The Beach Boys i Amy Winehouse; Joe Cocker i Stevie Wonder. Mae'r rhestr mor hir ag y mae’n drawiadol.
Gyda thalent fel ei dalent o, a sylw felly, mae'n rhyfeddol nad ydi o'n enw cyfarwydd ar ei liwt ei hun. Ac eto, wrth iddo droi’n 60 oed eleni, mae am wneud iawn am hynny i gyd.
Yn hytrach na bod yn foi’r ystafell gefn sy'n ychwanegu hud lleisiol at weithiau Robbie Williams a mwy, mae'n camu allan o'r cysgodion ar gyfer ei daith fawr gyntaf. Bydd yn chwarae ar bron i 50 o ddyddiadau yn ystod y gwanwyn, gan gynnwys llond llaw yn lleol, lle bydd cyfle i gefnogwyr weld y dyn gyda’r llais peraidd yn eu theatr leol.
Yn ystod ei daith bydd yn ymweld â Neuadd William Aston ar nos Wener 14 Mehefin.
Dywedodd Tommy:
“Fe fydd y daith yma’n wahanol i unrhyw beth rydw i wedi’i wneud o’r blaen erioed. Yn ogystal â chanu, dydi pobl ddim yn gwybod fy mod i wrth fy modd yn chwarae’r piano, y gitâr, ychydig o iwcaleli o bryd i'w gilydd, ac unrhyw beth y gallaf gael fy nwylo arno a dweud y gwir. Rydw i’n cael fy adnabod fel canwr soul, blŵs a jazz felly fe fydd llawer o’r caneuon rydw i’n hoffi eu canu, rhai caneuon rydw i wedi eu canu ar Strictly, ac un neu ddwy o fy albym i efallai. Fe fydda’ i hefyd yn adrodd stori neu ddwy o fy ngyrfa, gan ateb cwestiynau gan y gynulleidfa. Mae’n mynd i fod yn hamddenol, yn hwyl a gobeithio y byddwn ni’n gallu cael y gynulleidfa i gymryd rhan mewn cân neu ddwy hefyd.
“I mi, mae’n ymwneud â bod mewn lleoliadau agos atoch chi a chael y berthynas uniongyrchol honno gyda’r gynulleidfa. Mae pobl wedi arfer fy nghlywed i’n canu ar nos Sadwrn ar y teledu yn eu hystafelloedd byw ond dydyn nhw ddim yn cael gweld a chlywed y fi go iawn yn gwneud fy mheth fy hun, yn fyw ac yn uniongyrchol. Mae'r berthynas honno rydych chi'n ei meithrin gyda chynulleidfa yn ystod sioe yn beth arbennig iawn; maen nhw'n cael dod i'ch byd chi am y noson.”
Mae'n rhyfeddol ystyried bod Tommy wedi chwarae gyda rhai o sêr mwyaf y byd yn rhai o'r neuaddau cyngerdd mwyaf mawreddog, ond dyma fydd y tro cyntaf iddo fynd ar daith ei hun. Ac yn ogystal â’r canu hyfryd, fe fydd hefyd yn rhannu straeon o’i yrfa ryfeddol – boed y rheini’n sôn am Strictly neu rai o’r sêr mwyaf mae wedi gweithio gyda nhw.
“Dydw i ddim am ddatgelu gormod… ond fe wna i ddweud fy mod i wedi bod yn y busnes cerddoriaeth ers 50 mlynedd ac wedi bod yn canu ar Strictly ers dros 20 mlynedd, felly efallai bod gen i stori neu ddwy.”
Bydd y set yn cynnwys ffefrynnau’r gynulleidfa, yn ogystal â chaneuon llai cyfarwydd efallai – ond sydd â chysylltiad arbennig â Tommy. Un enghraifft yw alaw a ganodd yn fachgen: “Pan oeddwn i’n 10 oed, fe wnes i ganu cân o’r enw ‘That Lucky Old Sun’ mewn cyngerdd mewn clwb cymdeithasol yn Lerpwl i gynulleidfa o tua 150, gan gynnwys fy mam, ewythrod, modrybedd ac ati. Fe ddechreuodd pobl yn y gynulleidfa grïo ond roeddwn i’n rhy ifanc i ddeall pam. Oeddwn i wedi gwneud rhywbeth o'i le? Mae hi wedi bod yn gân arbennig i mi byth ers hynny ac mae’n bendant yn cael ei chynnwys.”
Wrth edrych yn ôl, mae'n ddoniol meddwl ei fod wedi bod yn un o brif gyfranwyr Strictly, yn ymddangos ar y sioe ers 20 mlynedd. Pan gynigiwyd y gig iddo gyntaf, bu bron iddo wrthod – doedd o ddim yn argyhoeddedig o gwbl y byddai pobl eisiau treulio eu nosweithiau Sadwrn yn gwylio dawnsio neuadd ar eu soffa.
“Mae Strictly yn gwbl unigryw o ran ei fod yn dod â chymaint o wahanol bobl at ei gilydd. Mae’n rhywbeth y gallwch chi ei wylio gyda’ch plentyn 10 oed, a’ch nain. Mae yna ddawnsio, cerddoriaeth, adloniant, gwisgoedd crand, goleuadau, hudoliaeth, her, perygl, dawnswyr yn gadael. Y pecyn llawn mewn gwirionedd o ran adloniant nos Sadwrn. Ac mae gan bawb farn ar yr hyn maen nhw'n ei weld felly mae'n cael pobl i siarad.
“’Fyddwn i ddim yn dweud bod gen i ffefryn, ond mae’n anhygoel gweld sut mae’r sioe wedi esblygu o Gyfres 1, yr holl ffordd i ble rydyn ni nawr yng Nghyfres 21 ac yn dal i fynd. Mae'n parhau i dyfu a gwella bob blwyddyn.”
Ond nid dim ond Strictly sydd wedi cadw Tommy yn brysur. Mae wedi gweithio gyda rhai o artistiaid mwyaf y byd ac un o’i ffefrynnau oedd Robbie Williams.
“Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael Robbie Williams yn gofyn i mi ymuno ag o ar ei daith ‘Swings Both Ways’ ledled y byd. Roedd yn un arbennig oherwydd fe fyddwn i’n dod allan i flaen y llwyfan bob nos ac yn canu deuawd gydag o. Fe gefais i chwarae allweddellau hefyd – sy’n gallu bod yn beth prin. Mae’n ddyn hyfryd ac fe wnaeth i ni i gyd deimlo’n rhan fawr o bethau ac roedd yn cynnwys pawb.”
Mae'r dyn sy'n rhestru ei ddylanwadau mwyaf fel Louis Armstrong, Sam Cooke a Marvin Gaye - ac y mae posib cymharu ei lais â'r mawrion hynny - wedi treulio ei oes yn cefnogi'r mwyaf a'r gorau. Nawr, o’r diwedd, dyma'i amser o i ddisgleirio, ar ei daith unigol gyntaf.
I gael gwybod mwy ac i archebu tocynnau, cliciwch yma.



