Neuadd William Aston a’i phartneriaid yn lansio Gŵyl Gomedi Wrecsam
See dates and times 16 Awst 2023
News Story
Yr hydref yma bydd gŵyl gomedi enfawr yn llawn talent anhygoel yn cael ei chynnal yn Wrecsam. Bydd Gŵyl Gomedi Wrecsam yn cael ei chynhyrchu a’i chyflwyno gan Theatr Clwyd sy’n gweithredu Neuadd William Aston, mewn partneriaeth â Chlwb Pêl Droed Wrecsam a’r Maesgwyn. Mae’r lleoliad, ac yn ei dro, y ddinas, eisoes yn dod yn adnabyddus fel lle i weld comedi stand-yp o safon uchel ac mae’r partneriaid yn gobeithio gwneud yr ŵyl yn ddigwyddiad blynyddol.
0 Stars
Yn ystod y cais cyffrous i fod yn Brifddinas Diwylliant y llynedd fe wnaethom ni amlinellu i’r beirniaid ein bod ni wedi cynllunio gŵyl gomedi ar gyfer Wrecsam. Wrth i ni adeiladu tuag at gais arall yn y dyfodol, roedden ni’n meddwl y dylem ni fentro i greu gŵyl, rhywbeth rydyn ni’n gobeithio a fydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol, sy’n tynnu sylw at y gorau o dalent stand-yp Cymru ac yn ei harddangos fel talent sydd ymhlith goreuon y byd. Mae hyn wrth gwrs yn ddilyniant i rai o enwau mwyaf y byd comedi yn ymweld â Neuadd William Aston drwy gydol y flwyddyn, gyda gŵyl yn rhoi cyfle i ni gadw tocynnau’n fforddiadwy, a gweithio gyda grŵp gwych o bartneriaid. Mae Humphrey yn ymddangos hyd yn oed – er ei fod wedi gwthod gwneud gig stand-yp llawn fel roedd yn arfer!Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol yn Theatr Clwyd
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar benwythnos 3 – 5 Tachwedd gyda digwyddiadau ar draws tri lleoliad gan gynnwys Neuadd William Aston, y Clwb Canmlwyddiant yn STōK Cae Ras Clwb Pêl Droed Wrecsam, a Neuadd Maesgwyn. O gomedi addas i deuluoedd i ddigwyddiadau hwyr y nos, mae'n sicr y bydd rhywbeth at ddant pawb.
Yn rhoi cychwyn i’r ŵyl ar y nos Wener yn Neuadd William Aston mae Best of Wales Comedy Gala (3 Tach). Ymunwch â rhai o gomedïwyr gorau Cymru gan gynnwys Kiri Pritchard-McLean, Tudur Owen, Anna Thomas, Leroy Brito, Mel Owen, Esyllt Sears, a’r cyflwynydd Robin Morgan.
Draw yn y Clwb Canmlwyddiant, ymunwch â’r comedïwr Sikhaidd Prydeinig, Daman Bamrah, ar gyfer ei sioe gyntaf, Salmon Camera (3 Tach). Mae Daman Bamrah wedi treulio llawer iawn o'i fywyd mewn dryswch. Treuliodd ei flynyddoedd ffurfiannol yn teithio rhwng ei ysgol uwchradd yn Eglwys Loegr a’i Deml Sikhaidd, ond beth ddysgodd o mewn gwirionedd a ble roedd yn ffitio?! Ymunwch ag o wrth iddo geisio adnabod ei hun mewn byd cynyddol hurt.
Mae Mark Watson yn rhoi cychwyn i nos Sadwrn yn Neuadd William Aston gyda’i sioe Search (4 Tach).Yn dad a phlentyn ei hun, yng nghanolbwynt ei fywyd fwy neu lai, mae seren Taskmaster sydd wedi cipio sawl gwobr - a bellach yn enwog fel un rhan o dri o’r cwlt llwyddiannus ar YouTube No More Jockeys – yn ei ôl. Bydd yn ystyried y chwilio am ystyr rydyn ni i gyd yn ei wneud, gyda neu heb Google.
Mae’r gomedïwraig du jour, Alison Spittle, yn berwi o jôcs, a dicter hefyd mae’n debyg, dydi hi ddim yn gwybod be ydi’r teimlad cryf. Ymunwch â hi yn y Clwb Canmlwyddiant ar gyfer ei sioe Soup (4 Tach). Mae hi wedi ymddangos ar Off Menu, You're Dead To Me, Guilty Feminist, The Gargle ac wedi cydgyflwyno podlediad Wheel of Misfortune ar BBC Sounds gyda Kerry Katona.
Mae’r seren chwedlonol o Ganada, Tom Stade, yn dychwelyd gydag awr newydd anfarwol,Natural Born Killer (4 Tach)yn Neuadd Maesgwyn! Ymunwch â Tom wrth iddo chwarae â chymhlethdodau ein byd ni sy’n newid yn barhaus; synfyfyrio ar sawl penbleth gymdeithasol a llywio ei ffordd o amgylch blaengaredd a rhagenwau - heb sôn am 27 mlynedd o briodas a phlant sydd wedi tyfu i fyny sy'n gwrthod ei barchu (ac sy’n hoffi ei atgoffa pa mor ddwl maen nhw'n meddwl ydi o). Dyma sioe ar gyfer iGens, Milenials, Gen X’s, Baby Boomers a thu hwnt.
Pa well ffordd o ddechrau bore Sul, a diwrnod olaf yr ŵyl, na gyda Marcel Lucont: Les Enfants Terribles - A Gameshow For Awful Children (5 Tach). Mae'r sioe gemau anarchaidd yma i deuluoedd yn dychwelyd, gan osod plant yn erbyn oedolion a'i gilydd i geisio dod o hyd i'r plentyn mwyaf ofnadwy. Dewch i brofi’r hyn sy’n digwydd pan fydd anfoesgarwch rhyngwladol yn cwrdd ag afiaith plentynnaidd, wrth i blant gael profiad o fod yn wleidyddion, yn blâu ac yn petomanes i ennill y bathodyn yma o ddiffyg anrhydedd.
MaeComedy Translates (5 Tach) yn sioe gomedi ddwyieithog unigryw. Yn cael ei chynnal yn y Clwb Canmlwyddiant, bydd y cynulleidfaoedd yn profi sut beth yw comedi stand-yp mewn iaith arall. Wel, ryw fath. Tra bydd y comedïwyr yn perfformio yn y Gymraeg, bydd y gynulleidfa yn clywed cyfieithiad Saesneg. Yn fyw! Ambell fân anhawster technegol, ac oherwydd eu bod yn amhoblogaidd ymhlith pob cyfieithydd yn y wlad, bydd y cyfieithiadau’n cael eu darparu yn lle hynny... gan y comedïwyr eu hunain.
Eithriadol ddoniol - byddwch chi’n chwerthin o’r dechrau i’r diwedd – ac yn sicr bron yn dysgu llawer am yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ar yr un pryd. Yn serennu yn y sioe bydd y cyfieithydd sydd wedi troi’n ddigrifwr, Steffan Alun, a llu o berfformwyr gorau’r sîn Gymraeg.
Yn ffres ar ôl ei sioe gyntaf hynod lwyddiannus yn Fringe Caeredin a Theatr Soho, mae Chloe Petts yn dod â’i hawr ddilynol If You Can’t Say Anything Nice (5 Tach)i’r Clwb Canmlwyddiant. Roedd pawb yn ei chanmol am ba mor gwrtais oedd hi am faterion mawr yn y sioe ddiwethaf felly nawr mae hi'n newid y drefn ac yn bwriadu bod yn gwbl anghwrtais. Disgwyliwch jôcs am Greta Thunberg, y Frenhines a’ch galw chi i gyd yn griw o wyryfon.
Hoff gomedïwr Ffrengig Prydain yn cyflwyno ei oeuvres gorau o'r degawd diwethaf. Mae Marcel Lucont: Le Best Of (5 Tach)yn dod i Neuadd Maesgwyn. Gallwch ddisgwyl ffraethineb difynegiant, barddoniaeth rywiol, caneuon truenus a goruchafiaeth Galaidd.
Ac i gloi’r ŵyl yn Neuadd William Aston, cawn Socially Distant Sports Bar (5 Tach).Ymunwch ag Elis James, Mike Bubbins a Steff Garrero wrth iddyn nhw eich tywys chi i’r byd chwaraeon a thu hwnt. Podlediad Comedi am Chwaraeon, ond does dim rhaid i chi hoffi chwaraeon i’w GARU!
Bydd y digwyddiad yma’n cynnwys Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb Pêl Droed Wrecsam, Humphrey Ker. Dywedodd am yr ŵyl:
0 Stars
Rydw i’n falch iawn o weld rhestr wych o gomedïwyr yn dod i Wrecsam ar gyfer Gŵyl Gomedi gyntaf Wrecsam a diolch yn fawr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Theatr Clwyd a Little Wander am helpu i ddod â’r cyfan at ei gilydd. Rydyn ni yn y Clwb Pêl Droed wrth ein bodd yn gweld diwylliant yn ffynnu ar draws yr ardal ac yn hapus iawn i fod yn bartner i'r ŵyl, drwy ddefnydd o'r Clwb Canmlwyddiant a thrwy fy ymddangosiad i yn y Socially Distant Sports Club. Plis prynwch docynnau!
Cefnogir Gŵyl Gomedi Wrecsam gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Dinas Diwylliant Wrecsam.