News Story
Mae’r comedïwr arloesol sydd wedi ennill sawl gwobr, Paul Foot, yn ôl ar daith gyda Dissolve, ei sioe fwyaf personol, syfrdanol ac arloesol erioed. Mae Paul i’w weld ar Would I Lie To You?, Never Mind the Buzzcocks ac 8 Out of 10 Cats Does Countdown.
Fe gawson ni sgwrs gydag o i gael gwybod mwy am beth i’w ddisgwyl o’i sioe...
Rydyn ni mor gyffrous am eich cael chi yng Ngŵyl Gomedi Wrecsam. Ydych chi wedi perfformio yn Wrecsam / Gogledd Cymru o'r blaen?
Fel y rhan fwyaf o gomedïwyr, rydw i wedi bod ym mhobman bron ledled y wlad dros y blynyddoedd. Rydw i wedi perfformio yn Wrecsam a hefyd wedi gwneud rhywfaint o ffilmio unwaith mewn parc carafanau yn y Rhyl, lle cefais i a'r criw ffilmio ein bygwth gan garafaniwr am 7 y bore gyda pheiriant strimio. Fe ddylwn i nodi, er bod hyn wedi digwydd yng Ngogledd Cymru, nad Cymro wnaeth ein bygwth ni. Mae’r Cymry’n bobl groesawgar iawn a dydyn nhw byth yn bygwth pobl gyda pheiriant strimio – mae’n well ganddyn nhw fygwth pobl gyda maip neu lefel saer mewn ystum ymosodol.
Beth allwn ni ei ddisgwyl o'ch sioe chi Dissolve?
Fe allwch chi ddisgwyl siwrnai syfrdanol ac emosiynol i 'ngorffennol i, yn ogystal â hiwmor Eifftaidd hynafol, a sôn am yr hyn y byddai’r Iesu wedi'i gyflawni pe bai wedi cael bod yn blymar.
Pa un yw eich perfformiad mwyaf cofiadwy chi, boed dda neu ddrwg, a pham?
Rai blynyddoedd yn ôl, fe wnes i sioe yng Nghaeredin mewn pwll nofio. Do, rydych chi wedi darllen hwn’na'n gywir! Yng Nghaeredin mae pob cwpwrdd yn dod yn lleoliad yn ystod gŵyl y Fringe, ac eleni fe benderfynodd pwll mewn gwesty y byddai’n elwa. Roedd y cyflwynydd a'r perfformwyr yn gwneud eu comedi yn y dŵr, a'r gynulleidfa’n eistedd ar yr ochr. Yn anffodus, a dydi hyn ddim yn syndod, doedd y syniad yma ddim yn addas iawn ar gyfer perfformiadau comedi a phan wnes i gyrraedd, roedd y cyflwynydd yn cael yr hyn y mae’n rhaid i mi ei disgrifio fel chwalfa nerfol. Cyn fy nghyflwyno i, fe soniodd ei bod wedi diflasu ar wneud y sioe, ac am rai o anfanteision amlwg perfformio mewn pwll. Meddai hi, “Roeddwn i'n meddwl y byddai'n syniad gwych cael sioe mewn pwll nofio, ond dydi hi ddim wir yn gweithio. Rydw i wedi bod yn gwneud hyn ers 3 wythnos bellach, a fedra i ddim cymryd dim mwy. Nawr, wnewch chi groesawu Paul Foot.” Wedyn fe es i 'ar y llwyfan' a gwneud fy act, gan geisio gwneud pethau’n well, tra oedd y cyflwynydd yn crïo’n gwbl agored yn y pwll padlo. Roedd yn chwithig iawn. Roeddwn i eisiau i'r llawr agor a fy llyncu i, ond mewn ryw ffordd, mae’n debyg ei fod wedi gwneud hynny eisoes.
Yr halen ar y briw y diwrnod hwnnw oedd mai hon oedd y 18fed sioe i mi ei pherfformio yn ystod y diwrnod, gan fy mod i’n ceisio torri record y byd am y nifer fwyaf o sioeau comedi i gael eu perfformio mewn 24 awr. Fe wnes i dorri’r record, drwy wneud 25 sioe i gyd, ond fe wrthododd pobl Guinness World Record y record oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch. Mae'n debyg y byddwn i wedi gallu taro i mewn i rywun yn rhuthro rhwng y sioeau, felly roedd fy ymgais i am record yn cael ei ystyried yn rhy beryglus i gynhyrchwyr Guinness fod ag unrhyw beth i'w wneud ag ef. Mae hyn er gwaetha’r ffaith eu bod nhw wedi caniatáu yn gwbl hapus i ddyn roi 13 o nadroedd yn ei geg. Eto i gyd, mae'n debyg ei fod o wedi gwneud asesiad risg yn lle cerdded yn gyflym ac yn gwbl naïf drwy Gaeredin heb y gwaith papur perthnasol.
Dywedwch rywbeth wrthyn ni na fydd eich cynulleidfa chi’n ei wybod amdanoch chi?
Rydw i'n caru pryfed cop. Unwaith roeddwn i'n perfformio sioe ac fe stopiodd y gynulleidfa chwerthin ac roedd yn amlwg bod rhywbeth yn tynnu eu sylw. Fe wnes i ofyn iddyn nhw beth oedd yn bod a chael gwybod bod pry copyn mawr yn y theatr oedd yn dychryn rhai pobl. Fe wnes i godi’r pry copyn a'i roi allan drwy'r ffenest ac fe aeth y sioe yn ei blaen yn ddidrafferth. Yr hyn doedd y gynulleidfa ddim yn ei wybod oedd fy mod i wedi methu â’i roi allan yn iawn drwy’r ffenest ac fe dreuliodd y pry copyn weddill y perfformiad yn cropian i fyny ac i lawr fy llawes i. Doedd dim ots gen i. Roedd mor gyfeillgar.
Oes yna jôc neu sgets y byddech chi wedi hoffi ei hysgrifennu?
Fe fyddwn i wedi hoffi ysgrifennu sgets Mastermind y Two Ronnies. Mae mor glyfar ac mae'n rhaid ei bod wedi cymryd oesoedd i roi trefn ar resymeg fewnol y sgets, gyda darnau o bapur ar hyd y llawr ym mhobman - fy hoff fath i o ysgrifennu. Un ffaith ddibwys ydi bod fersiwn ysgrifenedig o'r sgript ar-lein sydd, mewn gwirionedd, yn welliant ar y fersiwn gafodd ei ffilmio. Nid bod hynny’n bwysig wir. Mae’r sgets mor llawn o linellau a jôcs gwych fel mai dim ond pedant fel fi fyddai’n sylwi.
Beth am berfformio'n fyw sy'n gwneud i chi ddychwelyd dro ar ôl tro i'r llwyfan?
Dydw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth arall i'w wneud fel bywoliaeth.
Unrhyw gyngor i bobl sydd eisiau dechrau yn y byd comedi neu sydd mewn cyfnod cynnar yn eu gyrfaoedd?
Canolbwyntiwch ar wella eich sioeau salaf a bydd eich perfformiadau gorau yn gofalu amdanyn nhw’u hunain. Dibynadwyedd ydi eich allwedd chi i lwyddiant.
Ac yn olaf, beth sydd ar y gweill ar gyfer gweddill y flwyddyn / 2025?
Rydw i'n disgwyl y bydda’ i’n gwneud yr 80 neu 90 neu fwy o berfformiadau o Dissolve sydd wedi'u trefnu eisoes neu sy'n debygol o fod, ac wedyn, ar ôl hynny, rydw i'n meddwl y caf i orwedd i lawr.
I archebu tocynnau Gŵyl Gomedi Wrecsam cliciwch yma.