News Story
Wedi’i disgrifio fel y comedïwr stand-yp sy’n gweithio galetaf ym Mhrydain ac yn cyflwyno ei brand unigryw o hiwmor a’i llais syfrdanol, mae Pauline Daniels yn siŵr o wneud i chi chwerthin lond eich bol!
Mae wedi’i gweld ar Calendar Girls The Musical gan Gary Barlow a Tim Firth, The Comedians, Shirley Valentine, Bread, Brookside, The Street, Central TV, Saturday Royal, Wogan, Radio Merseyside a Ricky Tomlinson’s Laughter Show.
Mae hi’n dod â’i sioe Get Me Before The Crematorium Does i Ŵyl Gomedi Wrecsam fis Medi eleni, felly fe gawson ni sgwrs sydyn gyda hi i gael gwybod mwy ...
Rydyn ni mor gyffrous am eich cael chi yng Ngŵyl Gomedi Wrecsam. Ydych chi wedi perfformio yn Wrecsam / Gogledd Cymru o'r blaen?
Rydw i wedi gweithio sawl gwaith yn Wrecsam mewn clybiau amrywiol yn ystod fy 44 o flynyddoedd yn y busnes ac rydw i bob amser wedi teimlo bod y cynulleidfaoedd yn griw gwych, fel y mae Gogledd Cymru i gyd.
Beth allwn ni ei ddisgwyl o'ch sioe chi?
Digon o chwerthin gobeithio, gwirioneddau, cerddoriaeth ac adloniant.
Mae’r teitl yn unigryw iawn, sut wnaethoch chi feddwl amdano?
Fe gefais i gais i wneud taith ychydig cyn i’r pandemig daro ac roeddwn i’n mynd i’w galw hi’n “Where’s My Bloody Pension” oherwydd roeddwn i’n un o’r merched hynny oedd ar eu colled yn 60 oed yn anffodus ac wedyn fe gawson ni’r pandemig, ac fe wnes i droi’n 66 oed a chael fy mhensiwn felly fe wnes i feddwl, wel, beth sy’n dod ar ôl eich pensiwn chi? Yr Amlosgfa, felly dyna pam y teitl.
Pa un yw eich perfformiad mwyaf cofiadwy chi, boed dda neu'n ddrwg, a pham?
Mae yna gymaint o berfformiadau cofiadwy wedi bod ond mae'n rhaid i mi ddweud mae’n siŵr mai gweithio yn y Palladium yn Llundain ydi un, serennu yn y West End fel Mae West ac wrth gwrs, chwarae'r rôl orau i gael ei hysgrifennu erioed i fenyw, Shirley Valentine, ond mae yna gymaint o amseroedd gwych wedi bod dros fy holl flynyddoedd i.
Beth ydych chi’n ei hoffi gymaint am berfformio’n fyw?
Does dim byd yn y byd fel perfformiad byw, dydych chi ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd a does gennych chi ddim syniad pwy sydd yn eich cynulleidfa chi, felly mae'n dipyn o antur, er yn frawychus iawn weithiau, ond dyna sy'n eich cadw chi ar flaenau eich traed ac mae gallu meddwl ar eich traed yn fantais fawr gyda pherfformiad byw.
Dywedwch rywbeth wrthym ni nad ydi’r gynulleidfa’n ei wybod amdanoch chi efallai?
Ar ôl cymaint o flynyddoedd a chymaint o berfformiadau fe fyddwn i’n synnu os oes unrhyw beth nad ydi’r gynulleidfa yn ei wybod amdanaf i, rydw i wedi agor fy nghalon o’r diwrnod cyntaf un ar y llwyfan ac mae hynny’n gallu bod yn drist ond yn ddoniol iawn hefyd.
Unrhyw gyngor i bobl sydd eisiau dechrau yn y byd comedi neu sydd mewn cyfnod cynnar yn eu gyrfaoedd?
Byddwch yn driw i chi’ch hun, siarad am bethau cyfarwydd i chi, astudio’r mawrion a’ch ffefrynnau chi, edrych ar y rhai gwael a dysgu, gwneud pob diwrnod yn ddiwrnod ysgol.
Ac yn olaf, beth sydd ar y gweill ar gyfer gweddill y flwyddyn / 2025?
Mae gen i flwyddyn brysur yn barod, rydw i’n lwcus i allu teithio’r byd ar fordeithiau yn gwneud i bobl chwerthin yn ogystal â gwestai gwyliau ac er nad oes llawer o glybiau ar ôl, mae wastad rhywbeth newydd rownd y gornel, diolch i dduw. Y munud y bydda’ i’n stopio gwneud i bobl a fi fy hun chwerthin, fe fydda’ i’n ymddeol, ond dydw i ddim yn barod eto yn sicr ac mae gen i 69 mlynedd o fywyd i’w ddefnyddio fel deunydd, y flwyddyn nesaf fe fydda’ i’n 70 ond dydw i ddim am adael i hynny fy rhwystro i.
I archebu tocynnau Gŵyl Gomedi Wrecsam cliciwch yma.