News Story
Yn ystod Gŵyl Gomedi Wrecsam fe fydd cyfle i gymryd rhan mewn arweiniad i ddechreuwyr i weithdy byrfyfyr.
Dan arweiniad Angie Waller a Trev Fleming, byddwch yn cymryd rhan mewn golygfeydd digymell, heb eu sgriptio, gan hogi sgiliau meddwl a chyfathrebu cyflym. Gyda gemau ac ymarferion i annog cydweithio a dewisiadau dewr, i gyd mewn awyrgylch cefnogol i'ch helpu chi i ryddhau eich potensial comedïaidd.
Fe gawson ni sgwrs gyda'r ddau ohonyn nhw i gael gwybod mwy...
Sut daeth y ddau ohonoch chi ar draws comedi byrfyfyr?
Trev – Fe gefais i glyweliad am y tro cyntaf ar gyfer sioe oedd yn cael ei chyfarwyddo gan y diweddar wych Ken Campbell yn 2004, ac fe gefais i le fel rhan o’r cast ar gyfer sioe o’r enw 'Farting Around in Disguises'.
Roedd hi'n sioe wallgof yn llawn uchafbwyntiau a throeon trwstan (fe wnes i dorri fy nhroed un noson). Rydw i’n meddwl mai dyna pryd wnes i ddechrau mwynhau byrfyfyrio.
Angie - Roeddwn i'n ffansïo Trev felly fe es i draw i rai gweithdai roeddwn i'n gwybod y byddai o ynddyn nhw.
Dywedwch wrthym ni am un o'ch hoff adegau yn ystod perfformiad byrfyfyr?
Trev - Cwestiwn anodd iawn gan fod cymaint wedi bod dros y blynyddoedd. Yr adegau gorau ydi pan rydych chi a’ch ffrindiau ar y llwyfan ar yr un donfedd ac yn cefnogi eich gilydd.
Ond mae unrhyw adeg pan rydych chi'n rhan o ffynnon erotig animatronig yn dda.
Angie – Ie wir, cwestiwn anodd! Rydw i wrth fy modd yn canu’n fyrfyfyr felly fy hoff ddarnau i ydi’r caneuon fel arfer.
Beth sy'n gwneud perfformio byrfyfyr mor wahanol i unrhyw fath arall o gomedi?
Trev - Does dim rhwyd i’ch arbed chi. Gyda stand-yp neu sgets mae gennych chi eich sgript i syrthio’n ôl arni, ond dydi hynny ddim yn wir wrth fyrfyfyrio. Mae'n gontract rhwng cast a chynulleidfa i fynd ar y siwrnai gyda'i gilydd. Ac mae'n gallu mynd i lefydd anhygoel.
Angie – Rydw i wrth fy modd gyda sut mae'r gynulleidfa a'r perfformwyr yn darganfod pethau ar yr un pryd gan nad oes neb yn gwybod beth fydd yn codi nes iddo ddigwydd. Fel y dywedodd Trev, mae'n siwrnai ac mae'r siwrnai honno'n brofiad sy’n cael ei rannu'n llwyr. Mae byrfyfyrio hefyd yn ymwneud â chefnogi eich cyd-berfformwyr, yn hytrach na cheisio bod yn fwy doniol na nhw. Rydyn ni'n dysgu mai ein prif nod ni yw gwneud i'n partner ni mewn golygfa edrych yn dda. A phan fydd pawb yn gwneud hynny, mae'r canlyniadau'n wych. Hefyd, os bydd pethau'n mynd o chwith... does dim ots wir!
Beth all pobl ei ddisgwyl o'r gweithdy?
Trev - Mae'n gyflwyniad i berfformio byrfyfyr felly hynny'n union. Fe fyddwn ni’n dangos technegau sylfaenol ond dibynadwy sy'n cael eu defnyddio gan gwmnïau byrfyfyr ledled y byd.
Fe fyddwn ni’n chwarae gemau ac yn gwneud golygfeydd a fydd i gyd yn cynnwys elfen addysgu. Fe fyddwch chi’n dysgu ac yn chwerthin.
Angie – Fe fydd llawer o chwerthin!
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried mynd i'r gweithdy ond ddim yn hollol siŵr?
Trev - Beth yw'r peth gwaethaf fedr ddigwydd? Un elfen o fyrfyfyrio yw croesawu'r anhysbys. Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd mewn golygfa ond rydyn ni'n mynd amdani. Efallai eich bod chi'n eistedd ac yn meddwl 'Beth os ydw i'n wael?' ond beth am feddwl ‘Beth os byddaf i’n dda?'.
Angie - Mae cymaint o bobl yn dweud nad ydyn nhw’n gallu byrfyfyrio... ond mae pawb yn gwneud hynny bob dydd. Does neb yn dilyn sgript. Mae byrfyfyrio yn estyniad o hynny.
Pwy yw rhai o'ch hoff berfformwyr byrfyfyr chi a pham?
Trev - Mae Mark Meer yn enwog yn y byd byrfyfyrio a hefyd yn arweinydd yn un o fy hoff gemau cyfrifiadurol i felly mae'n cael pwyntiau ychwanegol.
Mae Chris Mead yn berson cwbl hyfryd a hefyd yn berfformiwr ac yn hyfforddwr byrfyfyr anhygoel.
Angie - Mae perfformwyr Showstopper yn wych. Mae eu sioeau cerdd byrfyfyr nhw’n ysbrydoledig. Ac mae Mark Meer yn wych i berfformio gydag e gan ei fod yn gwneud i bawb ar y llwyfan deimlo'n wych.
Beth sydd ar y gweill ar gyfer gweddill y flwyddyn a thu hwnt?
Trev - Rydw i wedi bod yn gweithio fel actor am y rhan fwyaf o'r flwyddyn yma felly llawer o glyweliadau a theithio a thipyn o waith, sy'n braf.
Mae gen i sioe un dyn yn theatr Everyman yn Lerpwl ym mis Hydref sy'n hunangofiannol ar un llaw ac yn sesiwn blasu gwin ar y llaw arall.
Angie - Mae gan fy hunan arall i, Nana Funk, ychydig o sioeau i ddod. Mae Tough Old Bird yn gomedi gerddorol sy'n herio sut rydyn ni'n cael ein trin mewn cymdeithas wrth i ni fynd yn hŷn. Mae An Evening With Nana Funk yn sioe cabaret sy'n cynnwys adran gyda chaneuon byrfyfyr "Ask Nana" lle rydw i'n ateb cwestiynau'r gynulleidfa ar y pryd... ar ffurf cân.
I archebu tocynnau Gŵyl Gomedi Wrecsamcliciwch yma.