News Story
Mae Gary Delaney yn gomedïwr un llinell uchel ei barch sydd i’w weld ar Mock The Week a Live At The Apollo ac mae’n aml yn cael ei ystyried fel y comedïwr hawsaf ei ddyfynnu ar y gylchdaith. Mae set gyntaf Gary ar Live at the Apollo wedi cael ei gwylio bron i 100 miliwn o weithiau ar-lein. Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer 378 o sioeau ar ei daith ddiwethaf ac fe barodd am ddwy flynedd a hanner.
Bydd Gary yn perfformio fel rhan o'r Gala i Gloi Gŵyl Gomedi Wrecsam.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi yng Ngŵyl Gomedi Wrecsam. Sut ydych chi'n teimlo am ddychwelyd i Wrecsam?
Wrecsam oedd un o'r dyddiadau olaf ar fy nhaith 378 o sioeau i a barodd ddwy flynedd a hanner. Erbyn hynny roeddwn i wedi blino ond roedd y dorf yn Wrecsam yr union beth mae comedïwr ei eisiau i roi hwb i chi tuag at y llinell derfyn. Roedden nhw'n glyfar, yn egnïol ac yn hoff iawn o jôcs budur. Y dorf ddelfrydol i mi. Rydw i'n edrych ymlaen at ddod yn ôl a'i wneud o eto ond heb gymaint o gaffein y tro yma.
Pa un yw eich perfformiad mwyaf cofiadwy chi, boed dda neu'n ddrwg, a pham?
Roeddwn i'n gwneud gig ar bnawn o haf mewn pabell fawr i lond lle o feicwyr blewog. Roedd pethau'n mynd yn dda iawn. Wedyn tua 20 munud ar ôl i mi ddechrau fe aeth pethau’n wyllt. Roedd pobl yn chwerthin ac yn bloeddio dros y lle yn fwy nag erioed o’r blaen, roedd y dorf ar eu traed. Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n athrylith ac, o'r diwedd, wedi darganfod cyfrinach comedi. Doeddwn i ddim.
Roedd yr haul yn llachar ar wal y babell y tu ôl i mi. Heb yn wybod i mi roedd beiciwr meddw wedi sleifio allan o'r gig ac, o weld y ciw ar gyfer y toiled, wedi cuddio’n grefftus rownd cefn y babell i gael pi-pi! Doedd o ddim yn sylweddoli, gyda'r haul y tu ôl iddo fo, ei fod yn creu cysgod pyped perffaith o ddyn yn pi-pi ar y cynfas y tu ôl i mi. Os ydych chi wedi gweld y Mannekin Pis ym Mrwsel erioed, roedd yn edrych felly, ond yn 6'2 gyda barf a siaced lledr. Ond da iawn iddo fo, fe wnaeth o daro deuddeg yn y gig yna, a dweud y gwir rydw i'n meddwl y bydd o ar y gyfres nesaf o Britain's Got Talent.
Dywedwch rywbeth wrthyn ni na fydd eich cynulleidfa chi’n ei wybod amdanoch chi?
Roeddwn i'n arfer trefnu Cynadleddau fel bywoliaeth ac rydw i wedi cwrdd â Nelson Mandela a Bill Clinton.
Rydw i hefyd wedi cael peint gyda Mick Jagger a kit kat gydag Edwina Currie.
Oes yna jôc neu sgets y byddech chi wedi hoffi ei hysgrifennu?
“Fe es i i helynt ar ddêt unwaith. ’Wnes i ddim agor drws y car iddi. Yn lle hynny, fe wnes i nofio i'r wyneb.”
Wedi’i hysgrifennu gan Emo Philips (Cofiwch gydnabod yr awdur neu fe fydd yn edrych fel ’mod i'n hawlio'r jôc yma!).
Unrhyw gyngor i bobl sydd eisiau dechrau yn y byd comedi neu sydd mewn cyfnod cynnar yn eu gyrfaoedd?
Gweithiwch yn galetach na’r boi nesa. Ffugiwch eich bod chi’n hyderus nes byddwch chi'n hyderus go iawn. Ysgrifennwch bob dydd a golygu’n llym. Dim ond 5% o'r jôcs rydw i'n eu hysgrifennu ar gyfer sioeau byw ydw i'n eu defnyddio.
Ac yn olaf, beth sydd ar y gweill ar gyfer gweddill y flwyddyn / 2025?
Rydw i angen ysgrifennu sioe ar gyfer y daith nesaf. Mae hynny fel arfer yn cymryd o leiaf blwyddyn. Mae'n debyg y bydda’ i’n dechrau taith arall ar ddiwedd 2025.
I archebu tocynnau Gŵyl Gomedi Wrecsamcliciwch yma.