News Story
Mae Lou Sanders yn gyfarwydd i lawer ac mae wedi ymddangos ar raglenni teledu fel Taskmaster, QI, Would I Lie to You?, Travel Man, 8 Out of 10 Cats Does Countdown, Hypothetical, The Russell Howard Hour, Jon Richardson: Ultimate Worrier, Alan Davies: As Yet Untitled, 8 Out of 10 Cats a Russell Howard's Good News yn ogystal â chyflwyno Mel Giedroyc: Unforgivable.
Fe gawson ni sgwrs gyda hi i gael gwybod mwy am beth i’w ddisgwyl o’i sioe.

Rydyn ni mor gyffrous am eich cael chi yng Ngŵyl Gomedi Wrecsam. Ydych chi wedi perfformio yn Wrecsam / Gogledd Cymru o'r blaen?
Rydw i wedi gwylio tîm pêl droed Wrecsam yn chwarae – mae hynny'r un peth rydw i'n dychmygu?!
Beth allwn ni ei ddisgwyl o'ch sioe chi?
Y gwir! Y gwirionedd pur a budr! Na, mae'n ymwneud â cheisio gwasgu'r llawenydd allan o fywyd a hefyd am fynd ar ddêts (wrth gwrs).
Pa un yw eich perfformiad mwyaf cofiadwy chi, boed dda neu'n ddrwg, a pham?
Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud y Late Late Show yn America oherwydd roedd yn ganol dydd ond mae Americanwyr mor hoff o floeddio a chymeradwyo a phositifrwydd - rydych chi’n cael eich paratoi ar gyfer gig dda. Yr unig beth gwell na chael gig dda ydi rhywun yn ei ffilmio fel bod gennych chi dystiolaeth.
Rydych chi hefyd yn awdur (What's That Lady Doing; False Starts a Happy Endings) ac yn cyflwyno podlediad (Cuddle Club with Lou Sanders) yn ogystal â gwneud stand-yp a theledu. Oes gennych chi ffefryn a sut ydych chi’n eu jyglo nhw i gyd.
Rydw i wedi stopio fy mhodlediad nawr, roeddwn i angen seibiant, ond nawr ’mod i wedi cael seibiant, rydw i'n bwriadu gwneud un newydd. Rydw i'n hoffi'r cymysgedd o wneud y cyfan. Rydw i’n meddwl mai teledu fydd fy ffefryn i bob amser oherwydd rydych chi’n cael eich trin fel babi bach / tywysoges ac mae popeth wedi’i wneud i chi. Na, rydw i'n hoffi'r cyfeillgarwch a'r ffaith eich bod chi i gyd yn gweithio gyda'ch gilydd i greu rhywbeth. Ac rydw i jyst yn caru teledu. Ei wylio, ei wneud, siarad amdano ...
Wedyn mae stand-yp ychydig yn fwy blinedig ond rydw i wrth fy modd ac rydw i wrth fy modd gyda'r uniongyrchedd a'r ffaith eich bod chi'n dysgu drwy'r amser.
Yn gynharach eleni roeddech chi ar Dancing on Ice, sut brofiad oedd hynny ac a fyddwch chi'n dal ati i sglefrio?
Rydw i i fod i fynd wythnos nesaf am y tro cyntaf ers y sioe. Roedd y sioe yn gymaint o hwyl i'w gwneud – roedd yn llawer o straen am ei bod yn fyw, ac ar iâ (yn amlwg), roeddwn i'n disgwyl hynny. Ond does gennych chi ddim llawer o amser i ddysgu'ch dawnsfeydd. Er hynny, roeddwn i wrth fy modd yn dysgu rhywbeth newydd, ac roedd y tîm yno mor wych ac roedd yn gymaint o hwyl! Ac roedd fy mhartner dawnsio i, Brendan, yn hwyliog iawn hefyd.
Unrhyw gyngor i bobl sydd eisiau dechrau yn y byd comedi neu sydd mewn cyfnod cynnar yn eu gyrfaoedd?
Oes, ysgrifennu a gigio fel petai'n obsesiwn. Mae'n rhaid iddo fod yn obsesiwn!
Ac yn olaf, beth sydd ar y gweill ar gyfer gweddill y flwyddyn / 2025?
Rydw i’n gweithio ar fy sioe newydd i ar gyfer taith sy’n dechrau ym mis Chwefror 2025 ac rydw i’n meddwl y bydd yn ‘ddarn’ hyfryd - ha. A rhai prosiectau teledu eleni gobeithio – sydd wrthi’n cael eu datblygu.
I archebu tocynnau Gŵyl Gomedi Wrecsamcliciwch yma.
Amserlen yr Ŵyl




