News Story
Mae seren Live at the Apollo a Would I Lie To You? ar y BBC, y comedïwr a’r seren ar y teledu, Stephen Bailey, yn dychwelyd i’r llwyfan gyda’i sioe fyw newydd sbon.
Mae Stephen wedi ymddangos ar sioeau sy’n cynnwys Coronation Street (ITV), Tipping Point Lucky Stars (ITV), Richard Osman’s House of Games (BBC) ac Unbreakable (BBC) ac wedi cyflwyno sioeau sy’n cynnwys Celebs on the Farm (Channel 5) a Takeshi’s Castle(Comedy Central).
Rydyn ni mor gyffrous am eich cael chi yng Ngŵyl Gomedi Wrecsam. Ydych chi wedi perfformio yn Wrecsam / Gogledd Cymru o'r blaen?
Rydw i wedi perfformio yng Nghymru o'r blaen a'r hyn rydw i’n ei hoffi fwyaf am hynny ydi gallu’r bobl i gael hwyl a bod yn gwbl agored a pharod i chwerthin.
Beth allwn ni ei ddisgwyl o'ch sioe chi?
Sioe ddoniol iawn a dipyn bach o showbiz henffasiwn.
Pa un yw eich perfformiad mwyaf cofiadwy chi, boed dda neu'n ddrwg, a pham?
Fe wnes i agor i Micky Flanagan mewn ychydig o arenas ac roedd hynny'n anhygoel - doedden nhw ddim hyd yn oed yno i fy ngweld i ac eto fe gawson ni’r amser gorau.
Dywedwch rywbeth wrthyn ni fydd eich cynulleidfa chi’n synnu o'i wybod amdanoch chi?
Mae gen i wregys du mewn Tae Kwon Do.
Rydych chi wedi gweithio mewn cymaint o wahanol fformatau ond beth am berfformio stand-yp yn fyw sydd mor arbennig?
Cael amser un i un gyda'r gynulleidfa. Does dim byd tebyg i berfformio’n fyw.
Unrhyw gyngor i bobl sydd eisiau dechrau yn y byd comedi neu sydd mewn cyfnod cynnar yn eu gyrfaoedd?
Stopiwch. Byddwch yn gyfreithiwr!
Ac yn olaf, beth sydd ar y gweill ar gyfer gweddill y flwyddyn / 2025?
Wel mae honno’n gyfrinach wna i fyth ei rhannu XOXO
I archebu tocynnau Gŵyl Gomedi Wrecsam cliciwch yma.